Ein Cynlluniau


Fel cwmni sy'n darparu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol ar gyfer cwsmeriaid yn y tymor hir, mae hi'n hanfodol ein bod ni'n cynllunio'n ofalus ar gyfer y dyfodol.

Bob 5 mlynedd, rydyn ni'n llunio cynllun busnes manwl sy'n destun ymarfer ymgynghori helaeth â'r cwsmeriaid. Pennir ein Cynllun Busnes 5 mlynedd yng nghyd-destun cynllun tymor hwy dros 25 mlynedd ' Ein Dyfodol Cynaliadwy,' sy'n sicrhau ein bod ni'n gallu parhau i ddarparu gwasanaethau rhagorol a fforddiadwy ymhell i'r dyfodol.

Os oes angen y dogfennau arnoch mewn fformat gwahanol fel print bras neu braille, ffoniwch ein tîm cymorth arbenigol ar 0330 0413394 a fydd yn trefnu copi mewn fformat sy’n gweithio i chi.

Adolygiad Dŵr Cymru 2050

Yn ein strategaeth Dŵr Cymru 2050, roeddem wedi ymrwymo i adolygu’r ddogfen bob pum mlynedd. Mae’r ddolen at ein adolygiad cyntaf o Dŵr Cymru 2050 i’w gweld isod. Mae’r adroddiad yn ystyried y newidiadau yn ein hamgylchedd gweithredol dros y bum mlynedd ddiwethaf a’r dystiolaeth ddiweddaraf ar y tueddiadau hirdymor. Mae hefyd yn adrodd ar y cynnydd sydd wedi ei wneud yn erbyn yr 18 Ymateb Strategol a’r hyn y mae’n golygu ar gyfer ein blaenoriaethau ar gyfer yr adolygiad pris nesaf, PR24.

Cliciwch yma er mwyn darllen y fersiwn lawn o Dŵr Cymru 2050: Adolygiad

Cliciwch yma i weld y fersiwn lawn o Dŵr Cymru 2050

Cliciwch yma i weld fersiwn gryno o Dŵr Cymru 2050

Os oes gennych gwestiynau am Dŵr Cymru 2050, cysylltwch â ni yn dwrcymru2050@dwrcymru.com

Ein Cynllun a'n Hadolygiad Perfformiad - Mawrth 2023

PDF, 76.9kB

Generic Document Thumbnail

Adroddiad Ymaddasu i Newid Hinsawdd

PDF, 4.1MB