Syr James Bevan KCMG
Cyfarwyddwr Anweithredol
Penodwyd: Chwefror 2025
Profiad
Mae gan James brofiad helaeth ym maes cysylltiadau â’r llywodraeth, arweinyddiaeth, cyflawni gweithredol, rheoliadol, diogelu’r amgylchedd a newid hinsawdd. Yn dilyn gyrfa ddiplomyddol lle bu’n gwasanaethu yn Affrica, Ewrop, yr Unol Daleithiau ac India, ac fel Prif Swyddog Gweithredol y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu, aeth ymlaen i fod yn Brif Weithredwr Asiantaeth yr Amgylchedd rhwng 2015 a 2023, gan arwain gwaith yr Asiantaeth wrth ddiogelu’r amgylchedd, lleihau’r perygl o lifogydd a sychder ac effeithiau’r rhain ar gymunedau lleol, a thaclo achosion ac effeithiau newid hinsawdd.
Penodiadau Anweithredol cyfredol eraill
Ymddiriedolwr ar Fwrdd Ymddiriedolaeth Glandŵr, Ymddiriedolwr Ystadau Clinton Devon, ac Athro Gwadd ym Mhrifysgol Cranfield.
Aelodaeth o bwyllgorau
Y Pwyllgor ESG, y Pwyllgor Perfformiad a Diogelwch.