Yr Athro Tom Crick MBE
Cyfarwyddwr Anweithredol
Penodwyd: Hydref 2017
Profiad
Mae Tom yn Athro Polisi Digidol ym Mhrifysgol Abertawe ac yn Brif Ymgynghorydd Gwyddonol i Adran Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth y DU. Mae ei ddiddordebau academaidd yn y rhyngwyneb rhwng ymchwil, polisi ac ymarfer, gan fynd i’r afael â phroblemau parth â themâu digidol eang, sy’n cael eu gyrru gan ddata a’r cyfrifiadurol – o AI, y gwyddorau data a seiberwytnwch, i reoleiddio technoleg, seilwaith cenedlaethol critigol a gwasanaethau cyhoeddus digidol.
Tom oedd Comisiynydd cyntaf Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru rhwng 2018 a 2022, yn ogystal â bod yn aelod o banel yr arbenigwyr yn Adolygiad Llywodraeth Cymru o Arloesi Digidol ar gyfer yr Economi a Dyfodol Byd Gwaith yn 2019. Mae e wedi bod yn arwain ar y diwygiadau pwysig i gwricwlwm y gwyddorau a thechnoleg yng Nghymru dros y 10 mlynedd diwethaf. Mae Tom yn Beiriannydd Siartredig, yn Wyddonydd Siartredig ac yn Gymrawd i Gymdeithas Ddysgedig Cymru. Cafodd ei benodi’n MBE am ei wasanaeth i’r byd cyfrifiadureg yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines yn 2017.
Rolau Bwrdd cyfredol eraill
Ymddiriedolwr Cumberland Lodge.
Penodiadau Anweithredol blaenorol
Aelod Annibynnol (Cyfarwyddwr Anweithredol) Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Cyfarwyddwr Anweithredol Partneriaeth Datblygu Sector Cymru (corff Llywodraeth Cymru a elwir yn Diwydiant Cymru). Cyfarwyddwr Anweithredol Pwyllgor Ymgynghorol Ofcom yng Nghymru. Is-lywydd BCS, y Sefydliad TG Siartredig.
Aelodaeth o bwyllgorau
Aelod o’r Pwyllgor Archwilio a Risg, a Phwyllgor yr Amgylchedd, Cymdeithasol a Llywodraethiant.