Peter Perry

Prif Weithredwr


Penodwyd: Awst 2006

Profiad

Penodwyd Peter yn Brif Weithredwr ym mis Ebrill 2020. Cyn hynny, bu’n Rheolwr Gyfarwyddwr Dŵr Cymru Welsh Water ers Hydref 2017 ar ôl treulio pedair blynedd fel Prif Swyddog Gweithredol. Mae cefndir Peter ym maes peirianneg sifil a chafodd ei benodi’n Gyfarwyddwr Gweithrediadau Dŵr Cymru ym mis Gorffennaf 2006. Bu gynt yn Brif Swyddog Gweithredol United Utilities Operational Services (UUOS), ar ôl bod yn Gyfarwyddwr Gweithrediadau â chyfrifoldeb dros y contract gweithredol gyda Dŵr Cymru a buddiannau dŵr UUOS yn yr Alban ac Iwerddon. Cyn hynny, treuliodd dros 20 mlynedd yn gweithio dros Ddŵr Cymru.

Penodiadau Anweithredol blaenorol

Cyfarwyddwr (yn cynrychioli Cymru) Cynllun Ymgynghorol y Rheoliadau Dŵr, y corff cenedlaethol sy’n pennu safonau ar gyfer y deunyddiau a’r gwaith sy’n mynd i gyflenwi dŵr yfed, a chyn-Lywydd y Sefydliad Dŵr.

Penodiadau allanol cyfredol

Pete yw Cadeirydd Spring Innovation Limited, canolfan rhagoriaeth mewn arloesi yn sector dŵr y DU ac Iwerddon. Pete yw Cadeirydd Bwrdd Arweinyddiaeth Cymru ac mae’n aelod o Fwrdd Arweinyddiaeth Gymunedol Busnes yn y Gymuned Cymru – Rhwydwaith Busnes Cyfrifol EF Tywysog Cymru, sydd wedi ymrwymo i herio cwmnïau i fod yn fwy cyfrifol o ran eu heffaith ar gymunedau a’r blaned. Mae’n Aelod o Fwrdd Water UK ac yn ymgynghorydd ar Fforwm Gwytnwch y DU.

Aelodaeth o bwyllgorau

Yn bresennol yn y Pwyllgor Archwilio a Risg, yr Amgylchedd, y Pwyllgor Cymdeithasol a Llywodraethiant, y Pwyllgor Enwebiadau, y Pwyllgor Perfformiad a Diogelwch a’r Pwyllgor Taliadau.