Mike Davis
Prif Swyddog Cyllid
Penodwyd: Ionawr 2020
Profiad
Graddiodd Mike fel peiriannydd cemegolion ac mae’n gyfrifydd siartredig yn ôl ei alwedigaeth. Mae ganddo brofiad ym maes y Cyfryngau, TGCh a'r diwydiannau mwyngloddio, gan gynnwys fel Cyfarwyddwr Cyllid dau fusnes a gychwynnwyd ag ecwiti preifat. Bu Mike gynt yn Gyfarwyddwr Strategaeth a Rheoleiddio ac yn Rheolwr Cyllid gyda Dŵr Cymru, â’i ffocws oedd cyflawni adolygiadau rheoliadol o brisiau a chystadleuaeth.
Swyddi Anweithredol cyfredol eraill
Cyfarwyddwr Anweithredol Wales & West Utilities.
Swyddi Anweithredol blaenorol
Cyfarwyddwr Anweithredol gyda Chartrefi RhCT, sy'n landlord cymdeithasol cofrestredig, ac yn gadeirydd ar Bwyllgor Rheoli Asedau a Phwyllgor Trysorlys y sefydliad. Cyfarwyddwr UK Water Industry Research.
Aelodaeth o bwyllgorau
Aelod o Bwyllgor y Prosiect DPC, y Pwyllgor ESG, y Pwyllgor Cyllid a’r Pwyllgor Goruchwylio Gollyngiadau.