Debra Bowen Rees headshot

Debra Bowen Rees

Cyfarwyddwr Anweithredol


Penodwyd Ionawr 2020

Profiad

Mae gan Debra gyfoeth o brofiad o arwain a rheoli, gan gynnwys rheoli seilwaith rheoledig lle mae diogelwch yn hanfodol. Yn dilyn gyrfa lwyddiannus a nifer o swyddi uwch yn y Llu Awyr Brenhinol, ymunodd Debra â Maes Awyr Caerdydd fel Cyfarwyddwr Gweithrediadau yn 2012, cyn cael ei phenodi'n Gyfarwyddwr Rheoli yn 2014. Daeth yn Brif Weithredwr Maes Awyr Caerdydd, sydd ym mherchnogaeth Llywodraeth Cymru, yn 2017, lle bu'n gyfrifol am arwain y maes awyr trwy gyfnod o newid trawsnewidiol. Yn Awst 2020, rhoddodd Debra'r gorau i'w swydd fel Prif Weithredwr Maes Awyr Caerdydd, ac ymddiswyddodd o Fwrdd y Cyfarwyddwyr ym mis Medi 2020.

Swyddi Anweithredol cyfredol eraill

Cadeirydd Cangen Sefydliad y Cyfarwyddwyr yn Ne Cymru. Cyfarwyddwr Anweithredol Porthladd Aberdaugleddau. Ymddiriedolwr ac Aelod o Fwrdd Cwmni Theatr Hijinx.

Aelodaeth o bwyllgorau

Cadeirydd Pwyllgor yr Amgylchedd, Cymdeithasol a Llywodraethu. Aelod o'r Pwyllgor Archwilio, y Pwyllgor Ansawdd a'r Amgylchedd a'r Pwyllgor Taliadau. Yn ogystal, Aelod sy'n cynrychioli'r Bwrdd ar y Panel Dethol Aelodau Annibynnol sy'n argymell Aelodau i’w penodi i'r Bwrdd.