Darren James
Cyfarwyddwr Anweithredol
Penodwyd: Ionawr 2025
Profiad
Penodwyd Darren yn Brif Weithredwr Aureos (gynt Keltbray Infrastructure Services) yn Awst 2024 ar ôl arwain y broses o brynu cangen seilwaith Keltbray Group, lle bu’n Brif Weithredwr o Ebrill 2020 ymlaen, ar ran EMK. Cyn hynny, treuliodd 30 mlynedd yn Costain Group PLC, yn y pendraw fel Prif Swyddog Gweithredu. Mae ganddo gyfoeth o brofiad wrth arwain rhaglenni uchel eu proffil ar gyfer cwsmeriaid o’r sectorau cyhoeddus a phreifat, a hynny’n aml mewn sectorau seilwaith sy’n cael eu rheoleiddio’n dynn, yn y DU ac yn rhyngwladol. Bu Darren gynt yn Gyfarwyddwr Anweithredol yn Awdurdod Porthladd Llundain.
Ar ôl ennill gradd peirianneg sifil o Brifysgol Surrey, ymunodd Darren â Costain fel myfyriwr ar leoliad diwydiannol, a datblygodd trwy’r sefydliad i lefel y Bwrdd Gweithredol. Mae e wedi cyflawni nifer o swyddi uwch gyda chyfrifoldeb sylweddol dros elw a cholled, gan gynnwys fel Rheolwr Gyfarwyddwr yr adran Seilwaith â throsiant o £1 biliwn, ac mae e wedi bod yn gyfarwyddwr gweithredol ers 12 mlynedd.
Penodiadau Anweithredol cyfredol eraill
Dim.
Penodiadau Anweithredol blaenorol
Awdurdod Porthladd Llundain – Cyfarwyddwr Anweithredol a Chadeirydd y Pwyllgor Buddsoddi, Aelod o’r Pwyllgor Trwyddedu, Aelod o’r Pwyllgor Ymgynghorol ar Bensiynau, a Chadeirydd Seilwaith Tafwys.
Aelodaeth o bwyllgorau
Cadeirydd Pwyllgor yr Perfformiad a Diogelwch. Aelod o’r Pwyllgor Enwebu.