Alison Wilcox
Cyfarwyddwr Anweithredol
Penodwyd: 01/01/2025
Profiad
Mae Alison wedi mwynhau gyrfa amrywiol sy’n cwmpasu rolau ymgynghoraeth rheoli, arbenigedd AD, partneriaethau busnes ac arwain gyda Hay Group, Vodafone a BT. Alison Wilcox yw Prif Swyddog Pobl a Diwylliant Grŵp BT a bu gynt yn Gyfarwyddwr AD Grŵp BT ac yn Gyfarwyddwr AD Rhanbarth Ewrop gyda Vodafone. Mae ganddi dros 25 mlynedd o brofiad o weithredu mewn rolau ar lefel Prif Weithredwr a bwrdd mewn rolau AD adrannol, corfforaethol ac ymgynghorol.
Penodiadau Anweithredol cyfredol eraill
Aelod o Fwrdd Ymddiriedolwyr a Chadeirydd Pwyllgor Enwebiadau Health Data Research UK (HDR UK) a Chyfarwyddwr Anweithredol Ymddiriedolaeth Sefydliad GIG Guy’s a St Thomas.
Penodiadau Anweithredol blaenorol
Cyfarwyddwr Anweithredol a Chadeirydd Pwyllgor Taliadau: Shepherd Building Group.
Aelodaeth o bwyllgorau
Aelod o’r Pwyllgor Taliadau (fel Darpar-Gadeirydd), y Pwyllgor Perfformiad a Diogelwch a’r Pwyllgor Enwebiadau.