Alastair Lyons CBE
Cadeirydd y Bwrdd
Penodwyd yn Gyfarwyddwr Anweithredol: Mai 2016
Cadeirydd y Bwrdd: Ers Gorffennaf 2016
Profiad
Cyfrifydd siartredig yw Alistair o ran hyfforddiant, ac mae ganddo 20 mlynedd o brofiad fel cadeirydd anweithredol cwmnïau rhestredig a phreifat. Yn ystod gyrfa weithredol helaeth ym maes gwasanaethau ariannol, bu'n Brif Weithredwr y Sefydliad Darbodus Cenedlaethol a Chymdeithas Adeiladu National & Provincial, yn Rheolwr Gyfarwyddwr Adran Yswiriant Abbey National plc, ac yn Gyfarwyddwr Prosiectau Corfforaethol National Westminster Bank plc. Dyfarnwyd CBE iddo yn 2001 am wasanaethau i nawdd cymdeithasol ar ôl iddo fod yn Gyfarwyddwr Anweithredol yn yr Adran Gwaith a Phensiynau a'r Adran Drafnidiaeth.
Swyddi Anweithredol Cyfredol Eraill
Cadeirydd Harworth Group plc.
Swyddi Anweithredol Blaenorol
Cadeirydd Admiral Group, y cwmni yswiriant ceir uniongyrchol rhwng 2000 a 2017, ac yn sgil hynny, AECS, cwmni daliant Ewropeaidd Admiral, tan 2021; Cadeirydd Towergate Insurance; Cadeirydd Serco, y grŵp gwasanaethau rhyngwladol a Chadeirydd Vitality UK. Dirprwy Gadeirydd Bovis Homes, ac Uwch Gyfarwyddwr Annibynnol Phoenix, y cwmni cydgrynhoi yswiriant bywyd.
Aelodaeth o bwyllgorau
Cadeirydd y Pwyllgor Enwebiadau, Pwyllgor Prosiect y DPC a’r Pwyllgor Goruchwylio Gollyngiadau. Aelod o Bwyllgor yr Amgylchedd, Cymdeithasol a Llywodraethu, y Pwyllgor Cyllid, y Pwyllgor Ansawdd a Diogelwch, y Pwyllgor Taliadau a’r Pwyllgor Technoleg.