Gwaith hanfodol yn Canal Side, Caer
Mae Dŵr Cymru'n gwneud gwaith i drwsio carthffos a adeiladwyd yn Oes Fictoria ger pont City Road ar Canal Side yng Nghaer.
Mae'r gwaith trwsio'n dipyn o her gan ei fod mewn stryd gul ger y gamlas.
Mae rhan o do y garthffos wedi disgyn mewn i’r bibell ger ble y cawsom broblem debyg nol yn 2022. Ond gan ein bod wedi trwsio problem debyg yn ddiweddar, mae gennym fwy o wybodaeth a dealltwriaeth a fydd yn ein helpu i drwsio’r garthffos cyn gynted a phosib.
Mae ein contractwyr yn paratoi i fynd ar safle i wneud y gwaith trwsio, a’r gobaith yw y bydd y cyfan wedi ei gwblhau mewn ychydig fisoedd.
Tra byddwn yn gwneud y gwaith, mae gennym bympiau a phibellau dros dro ar Canal Side er mwyn cadw’r dŵr i lifo drwy’r system. Bydd angen i'r rhain aros yn eu lle nes bod y gwaith i drwsio'r garthffos wedi gorffen.
Er mwyn cadw ein tîm a defnyddwyr y llwybr yn ddiogel, bydd angen i ni gau rhan o Canal Side a bydd gwyriad mewn lle i gerddwyr a beicwyr. Mae mwy o wybodaeth isod.
Rydym yn deall bod hyn yn anghyfleus i ddefnyddwyr Canal Side ac hoffem ymddiheuro am yr anghyfleustra yn ystod y gwaith hanfodol hwn.
Beth rydyn ni'n ei wneud nawr/ y camau nesaf:
- Bydd ein tîm ar y safle i wneud y gwaith yn fuan.
- Mae gennym ni bympiau ar y safle er mwyn cadw’r system i lifo.
- Byddwn yn gweithio yn yr ardal ble mae’r pympiau ar hyn o bryd – ger hen westy Swifty’s.
- Yn ystod y gwaith yma, bydd y llwybr ar hyd lan y gamlas o Bont City Road hyd at y Sgwâr ar gau, a bydd gwyriad mewn lle – dilynwch yr arwyddion.
- Bydd y grisiau o Bont City Road lawr i Canal Side yn aros ar agor yn ystod y gwaith.
- Bydd yr holl fusnesau ar hyd Canal Side yn aros ar agor fel arfer.
Lleoliad ein gwaith:
Er diogelwch y tîm a'r cyhoedd, bydd y llwybr o dan Bont City Road ar gau i'r cyhoedd yn ystod y gwaith, a bydd gwyriad yn gweithredu yn ystod y cyfnod hwn er mwyn caniatáu mynediad at y busnesau ar Canal Side, a fydd ar agor fel arfer.
Rydyn ni'n gwybod bod Canal Side yn rhan o lwybr beicio rhif 45 Sustrans trwy Gaer. Ar ôl ymgynghori â'r sefydliad, mae Priffyrdd wedi ein cynghori nad oes unrhyw lwybrau amgen sy'n bodloni'r gofynion beicio diogel ac felly byddwn ni'n gofyn i feicwyr ddod oddi ar eu beics a defnyddio'r gwyriad i gerddwyr. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y mae hyn yn ei achosi.
Yr Amgylchedd
Rydyn ni'n cydweithio'n agos â'r Canal and River Trust i amddiffyn ecoleg Camlas Undeb Sir Amwythig.
Yn eich ardal
Cysylltu â’r newyddion
Byddwn yn diweddaru ein tudalen Yn eich Ardal ar ein gwefan gyda’r diweddaraf am y gwaith. I dderbyn y diweddariadau hyn trwy e-bost, ewch i Yn Eich Ardal a chliciwch ar Rhowch Wybod i Mi.