Gwaith Trin Dŵr
Llwyn-onn

Strategaeth Cyflenwad Dŵr Cwm Taf

Buddsoddi mewn gweithfeydd trin dŵr newydd a chadarn a chyfleusterau cysylltiedig a fydd yn darparu cyflenwad diogel a dibynadwy o ddŵr yfed glân i’n cwsmeriaid am ddegawdau i ddod.

Croeso i’n hymgynghoriad

10 Gorffennaf – 9 Medi 2024

Mae'r wybodaeth am y safle ymgynghori hwn yn amlinellu'r cynnig i uwchraddio Gwaith Trin Dŵr Llwyn-onn.

Ymgynghoriad anstatudol yw hwn ac fe'i cynlluniwyd i rannu â chi yr angen am y buddsoddiad, ein cynigion, a chael eich adborth ar y cynigion diwygiedig hyn cyn cynnal ymgynghoriad statudol.

Ein cynnig i uwchraddio Gwaith Trin Dŵr Llwyn-onn

Nodwyd mai safle Llwyn-onn oedd yr unig un o'r tri gwaith trin dŵr presennol yr ystyriwyd ei fod yn addas i’w uwchraddio.

Rydym wedi creu ystafell ymgynghori rithwir lle byddwch yn dod o hyd i wybodaeth am y cynnig a sut y gallwch roi eich barn. Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen y wybodaeth ychwanegol ar y prif fwrdd yn yr ystafell rithwir, yn ogystal â gweld y delweddau a ddarperir ar y sgrin.

Dweud eich dweud

Nawr bod gennym rai cynigion diwygiedig, rydym am glywed eich barn.

Cymerwch amser i ddarllen ein deunyddiau ymgynghori ac yna llenwch ein ffurflenni i rannu eich adborth.

Mae ffurflenni ar wahân ar gyfer pob cynnig fel y gallwn sicrhau y bydd unrhyw adborth a dderbynnir yn benodol i bob cynnig. Rydym wedi defnyddio system codau lliw ar y ffurflenni er eglurder: Rydym yn croesawu ac yn annog adborth ar y ddau gynnig. I’r rhai sy'n dymuno gwneud sylwadau ar y ddau, bydd angen i chi lenwi'r ddwy ffurflen adborth.

 
Gweld mewn ffenestr newydd.

Gallwch lenwi’r ffurflenni yn y ffyrdd canlynol

Os na allwch ymateb drwy un o'r sianeli uchod, ffoniwch ni ar 0800 052 0130 i drafod ffyrdd eraill o rannu eich adborth.

Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion yw 23:59 ddydd Llun 9 Medi 2024.

Mae eich adborth yn bwysig i ni a bydd yn ein helpu i lunio a datblygu ein cynigion ymhellach, cyn i ni gynnal ymgynghoriad statudol, lle bydd y gymuned leol a rhanddeiliaid yn cael cyfle unwaith eto i adolygu a rhoi sylwadau ar ein cynlluniau.