Strategaeth Cyflenwad Dŵr Cwm Taf
Buddsoddi mewn gweithfeydd trin dŵr newydd a chydnerth, a chyfleusterau cysylltiedig a fydd yn darparu cyflenwad diogel a dibynadwy o ddŵr yfed glân i'n cwsmeriaid am ddegawdau i ddod.
Yn 2024, cynhaliwyd ymgynghoriad anstatudol gyda'r gymuned leol a rhanddeiliaid ar ein cynigion i adeiladu gwaith trin dŵr newydd yn Fferm Dan-y-Castell, Merthyr Tudful, ynghyd â gorsaf bwmpio dŵr crai newydd yn ein safle Gwaith Trin Dŵr presennol ym Mhontsticill, i gymryd lle ein gwaith trin dŵr presennol ym Mhontsticill.
Mae ein cynigion yn cynnwys:
- Cyfleuster gwaith trin dŵr newydd yn Fferm Dan-y-Castell, Merthyr Tudful, sy'n cynnwys capasiti storio dŵr wedi'i drin i sicrhau bod gennym gyflenwad dibynadwy o ddŵr.
- Gorsaf bwmpio dŵr crai newydd yn ein safle presennol ym Mhontsticill i drosglwyddo'r dŵr crai o gronfa ddŵr Pontsticill i'r gwaith trin dŵr arfaethedig yn Fferm Dan-y-Castell.
- Piblinellau newydd ar gyfer dŵr wedi'i drin i gario dŵr wedi'i drin o'r gwaith trin dŵr newydd i'r rhwydwaith presennol ac ymlaen at gwsmeriaid.
- Addasu pibellau presennol a phibellau dŵr crai newydd at ddibenion gwahanol i gario dŵr o gronfa ddŵr bresennol Pontsticill.
- Ateb draenio cynaliadwy i gasglu dŵr wyneb a gorlifoedd o safle'r gwaith trin dŵr newydd.
Mae'r ymgynghoriad anstatudol hwn wedi cau erbyn hyn, er bod y deunyddiau ymgynghori sy'n amlinellu ein cynigion cynnar yn dal i fod ar gael isod.
Beth nesaf
Rydym wrthi’n paratoi’r wybodaeth ar gyfer yr ymgynghoriad cyn-ymgeisio, ac rydym yn anelu at gynnal yr ymgynghoriadau hyn yn Hydref 2025.
Unwaith y byddwn wedi cadarnhau'r dyddiadau ar gyfer yr ymgynghoriad cyn ymgeisio, byddwn yn hysbysu'r gymuned leol a rhanddeiliaid, a byddwn yn croesawu eich adborth unwaith eto.
Rydym yn deall y bydd llawer o gwestiynau am y prosiect hwn a pham mae angen i ni ei wneud. Os oes gennych unrhyw ymholiadau, anfonwch neges e-bost atom cwmtafproject@dwrcymru.com.