Dŵr Cymru'n cynorthwyo prosiectau bioamrywiaeth trwy ei Gronfa Gymunedol


18 Chwefror 2022

Water wedi dyfarnu £9000 i grwpiau a sefydliadau lleol i'w cynorthwyo i gyflawni prosiectau amgylcheddol arloesol.

Mae hyn yn rhan o ymrwymiad Dŵr Cymru i amddiffyn a chyfoethogi'r amgylchedd, ac i ymdrechu i helpu cymunedau lleol.

Mae'r prosiectau a ariannwyd yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau fel adnewyddu gardd goffa, prynu offer ar gyfer gwirfoddolwyr sy'n gweithio i amddiffyn bywyd gwyllt morol, denu bywyd gwyllt i gymunedau lleol, adeiladu llwybr er mwyn cyrraedd ardal bysgota'n ddiogel, helpu i greu ardaloedd dysgu awyr agored er mwyn datblygu gwybodaeth disgyblion am yr amgylchedd a bioamrywiaeth, a llawer iawn mwy. Mae dros ugain o grwpiau a sefydliadau lleol wedi elwa ar gefnogaeth y gronfa gymunedol.

Dywedodd Ian Chriswick, Pennaeth Cynorthwyol Ysgol Bro Dinefwr: ‘Diolch i'r gronfa a ddyfarnwyd i ni gan Ddŵr Cymru Welsh Water a sefydliadau eraill, bu modd i ni gyflawni tipyn o waith i adeiladu ardal ddysgu awyr agored er mwyn hwyluso'r Cwricwlwm Newydd i Gymru - a fydd yn ein galluogi ni i gyflawni prosiectau amgylcheddol trawsgwricwlaidd mewn cydweithrediad â sefydliadau addysg uwch fel Prifysgol Abertawe a’r Ganolfan Dechnoleg Amgen. Hoffem ddiolch i Ddŵr Cymru am ein helpu ni i ddod cam yn agosach at ein nod!’

Dywedodd Ruth Moss, Swyddog Monitro Bywyd Gwyllt Sir Henffordd ar gyfer yr Ymddiriedolaeth Adfer Cefn Gwlad: "Bydd y cyllid a ddyfarnwyd gan Ddŵr Cymru Welsh Water yn galluogi'r Ymddiriedolaeth Adfer Cefn Gwlad a'n gwirfoddolwyr bendigedig i adfer glan nant Slough gyda phlanhigion dyfrol brodorol a blodau gwyllt, yn ogystal â darparu cynefin a safle bwydo pwysig ar gyfer ein peillwyr prysur – a'u hysglyfaethwyr hefyd. Hoffem ddiolch i Ddŵr Cymru am eu cymorth i'n galluogi ni i gynnal cefn gwlad byw a gweithredol.’’

Dywedodd Claire Roberts, Pennaeth Cysylltu Cymunedau Dŵr Cymru: “Cwmni cymdeithasol-gyfrifol ydym ni - dyma beth mae cwsmeriaid a chydweithwyr yn ei ddisgwyl gennym. Rydyn ni'n chwilio am gyfleoedd i helpu i amddiffyn neu gyfoethogi'r amgylchedd a bioamrywiaeth bob amser, ac mae rhoi rhywbeth nôl i gymunedau lleol yn bwysig i ni. Mae ariannu prosiectau amgylcheddol fel y rhain wedi caniatáu i ni wneud y ddau beth yma. Rydyn ni wrth ein boddau ac yn gyffrous i weld sut mae cymunedau o amgylch ein hardal weithredu'n elwa ar y cyllid.

“Rydyn ni eisoes yn chwarae rôl allweddol yn ein cymunedau trwy ddarparu'r gwasanaethau mwyaf hanfodol ar eu cyfer - dŵr glân, a thrin a chael gwared ar ddŵr gwastraff yn ddiogel, ac mae'n bleser gennym gefnogi grwpiau lleol fel hyn.”

Cronfa Gymunedol

Mae ein Cronfa Gymunedol yn gyfle i gymunedau hybu ymdrechion i godi arian at achosion da yn eu hardal. Os ydych chi'n byw mewn ardal lle mae gwaith yn cael ei wneud – ac yn codi arian ar gyfer prosiectau er budd y gymuned – gallech gael gwerth £1,000 o gyllid gan Ddŵr Cymru.

Cronfa Gymunedol Dŵr Cymru