Dŵr Cymru'n agor ei Raglen Prentisiaethau Arobryn ar gyfer 2022


11 Chwefror 2022

Gellid dweud taw rhaglen prentisiaethau Dŵr Cymru, yr unig gwmni dŵr nid-er-elw yng Nghymru a Lloegr, yw un o’r cryfaf yng Nghymru.

Mae gan y cwmni hanes cadarn o ddarparu rhaglen prentisiaethau sy'n gallu mynd â phobl i unrhyw le, ac mae hynny’n cynnwys Prif Weithredwr y Cwmni, Peter Perry, a ymunodd â'r sefydliad fel prentis yn wreiddiol.

Wrth ddathlu wythnos prentisiaethau 2022, gall Dŵr Cymru edrych nôl ar ddegawd o lwyddiant. Yn ystod y cyfnod hwnnw mae'r cwmni wedi cyflogi 249 o brentisiaid ar draws amrywiaeth o feysydd ac â phob math o setiau sgiliau. Ac yn fwy nodedig byth, mae'r cwmni wedi llwyddo i gadw 89% o'r rhai a recriwtiwyd a'u gweld nhw'n datblygu, yn tyfu ac yn llewyrchu yn eu gyrfaoedd, gyda llawer o rolau'r rheng flaen a gyda chwsmeriaid yn cael eu cyflawni neu eu datblygu trwy brentisiaethau.

Mae'r cwmni'n recriwtio tua 30 o brentisiaid bob blwyddyn, i rolau sy'n amrywio o gynghorwyr cwsmeriaid i dechnegwyr cynnal a chadw. Hen hanes yw'r syniad taw dim ond gweithwyr llaw sy’n cael eu recriwtio fel prentisiaid. Er y bydd wastad angen y rolau yna, mae ein Rhaglen Brentisiaethau'n cwmpasu holl feysydd y busnes, ac mae'n llwybr dilys i bob math o wahanol yrfaoedd ac arbenigeddau.

Dyma rhai o brentisiaid cyfredol y cwmni:

Becca Gillam, Gweithredwr Prosesau Dŵr Gwastraff: “Efallai nad yw e'n waith pert, ond rwy'n dwlu ar y ffaith nad oes byth dau ddiwrnod yr un fath, a bod yna broblemau newydd i'w datrys o hyd. Roedd fy wythnos gyntaf yn eithaf ymestynnol, ac rwy'n cofio meddwl "be dwi wedi neud?!" ond ymhen ychydig wythnosau, fe ddechreuais i ddod i ben ac fe setlais i mewn i'r tîm yn dda. Fi yw'r unig ferch ar y tîm, ond dyw hynny ddim yn fy atal rhag dilyn fy angerdd. Mae'r tîm yn gefnogol iawn ac maen nhw wastad yn hapus i helpu os oes unrhyw gwestiwn gen i.”

Carys Newing, Dadansoddwr Seiberddiogelwch: "Cyn ymuno â Dŵr Cymru, doeddwn i ddim wedi meddwl rhyw lawer am brentisiaethau a beth y gallent ei gynnig i mi. Pan welais i'r brentisiaeth hon, roeddwn i'n gwybod y byddai'n un da i fi. Gan wybod beth rwy'n ei wybod nawr, byddwn i'n argymell prentisiaeth, yn arbennig os ydych chi'n chwilio am waith mewn maes arbenigol fel seiberddiogelwch.”

“Dyw anabledd ddim yn rhwystr gyda Dŵr Cymru Welsh Water, rwy'n gweithio i wneud fy ngorau bob dydd, ac mae fy rheolwr yn wych wrth gymryd fy anabledd cudd i ystyriaeth."

Chelsea Scriven, Arolygydd y Rhwydwaith Dosbarthu: "I unrhyw un sy'n ymgeisio am le ar y rhaglen: Rydych chi'n gwneud penderfyniad gwych wrth gymryd y camau cyntaf i ddechrau gyrfa. Rwy'n dwlu ar fy ngwaith a byddwn yn annog pobl i edrych ar yr holl wahanol rolau sydd ar gael ac i fentro i roi cynnig ar rywbeth newydd."

Mae Peter Perry, Prif Weithredwr Dŵr Cymru, yn edrych nôl ar ei siwrnai ysbrydoledig o brentis i Brif Weithredwr a pham ei fod e'n credu bod prentisiaethau'n benderfyniad gwych: "Sylweddolais i ddim tan ymhellach i lawr fy llwybr gyrfaol pa mor allweddol fu'r penderfyniad i fynd yn brentis i mi. Mae prentisiaethau am ddeall sut mae busnes yn gweithio ar draws sawl disgyblaeth, ac maen nhw’n cynnig dirnadaeth unigryw o fanion sefydliad i chi, ac yn caniatáu i chi fynd o dan groen y sefydliad go iawn."

“Mae cael profiad o fynd at wreiddiau'r busnes wedi bod yn gymorth aruthrol i mi, yn enwedig wrth i mi ddatblygu trwy fy ngyrfa. Mae'r ffaith fy mod i wedi bod yno ac wedi cael profiad ar bob lefel yn golygu bod gen i empathi a dealltwriaeth rwy'n manteisio arno bob dydd i wneud penderfyniadau gwybodus fel Prif Weithredwr.”

“Gallwch ddechrau a datblygu eich gyrfa trwy brentisiaethau hefyd. Peidiwch â gadael i'ch profiadau eich hun neu ddiffyg hyder eich dal chi nôl. Os oes gennych chi'r awydd a'r angerdd i lwyddo, yna fe lwyddwch chi, dim ots am eich oedran, eich ethnigrwydd neu'ch cefndir. Ymdaflwch eich hun i'r gwaith a bachwch ar bob cyfle gewch chi.”