Rhaglen addysg Dŵr Cymru’n dathlu’r flwyddyn orau erioed wrth iddi gyrraedd dros 80,000 o ddysgwyr


16 Mai 2023

Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi torri tir newydd i Raglen Addysg Dŵr Cymru, wrth iddi gyrraedd dros 80,000 o ddysgwyr rhwng Ebrill 2022 a Mawrth 2023.

Mae’r gamp yma’n gynnydd sylweddol ar y flwyddyn flaenorol, pan gyrhaeddwyd 50,000 o ddysgwyr – pob un yn derbyn profiad addysgiadol gydag un o athrawon Dŵr Cymru. Mae’r rhaglen addysg, sydd wedi tyfu ers lawnsiad y strategaeth yn 1998, bellach wedi ehangu ei darpariaeth gan gyflawni ymweliadau ag ysgolion, ymweliadau dosbarth â’r ganolfan addysg amgylcheddol awyr agored, a sesiynau rhithiol – gan agor y drws ar yr adnoddau gwerthfawr y mae’r cwmni nid-er-elw yn eu cynnig i nifer fawr o bobl.

Mae Tîm Addysg Dŵr Cymru wedi treulio 1,055 o oriau yn addysgu disgyblion trwy 967 o wahanol sesiynau addysg, gan ddefnyddio dull gweithredu sy’n unigryw yn y diwydiant lle mae athrawon yn cael eu secondio i’r rhaglen, er mwyn datblygu’n broffesiynnol gyda Dŵr Cymru, am flwyddyn. Mae’r rhaglen wedi parhau i gael adborth cadarnhaol dros ben gan ysgolion, sydd wedi canmol ei hymdrechion i ehangu profiadau, gwybodaeth a sgiliau’r disgyblion. Mae’r holl sesiynau’n gyson â’r pedwar pwrpas sydd wrth wraidd Cwricwlwm Cenedlaethol Cymru ac fe’u cynigir yn rhad ac am ddim, gan sicrhau profiad addysgiadol gwerthfawr a hygyrch.

Yn dilyn eu hymweliad ym mis Ionawr, dywedodd Ysgol Gynradd Caedraw:

“Ymweliad ardderchog; hynod o drefnus ac mor ddiddorol i’r plant a ddysgodd gymaint. Diolch i’r cyflwynydd am fod yn athro bendigedig ar y diwrnod – cyfeillgar iawn, hawdd siarad â nhw a ffordd mor hyfryd o gyflwyno’r peth i’r plant.”

Yn dilyn eu hymweliad ym mis Chwefror, dywedodd Ysgol Gynradd Cwrt Malpas:

“Roedd y disgyblion a’r oedolion wrth eu bodd ar y ddau weithdy. Rydyn ni’n edrych ymlaen at fynd â’r holl wybodaeth nôl i’r ysgol a’i defnyddio i addysgu’r rhieni a’r gymuned leol.”

Mae rhaglen y flwyddyn hon wedi gweld 2,697 o ddysgwyr yn ymweld â’r Ganolfan Addysg, 52,486 yn cymryd rhan mewn gwasanaethau, 23,287 yn cymryd rhan mewn gweithdai, a 1,760 o ddysgwyr yn ymuno mewn sesiynau byw ar lein. Mae’r cynnwys sy’n seiliedig ar y cwricwlwm yn cynnig profiad dysgu difyr, ymarferol a rhyngweithiol i’r disgyblion – gan drafod pynciau fel y cylchred dŵr, y broses o gael dŵr i’w tapiau, technegau i arbed dŵr, a rheol y 3P sef ‘fflysio dim ond pi-pi, pŵ a phapur’.

Dywedodd Claire Roberts, y Pennaeth Cysylltu Cymunedau:

“Rydyn ni’n hynod o falch o effaith ein Rhaglen Addysg eleni. Trwy estyn allan at dros 80,000 o ddysgwyr, rydyn ni’n helpu i addysgu’r genhedlaeth iau am bwysigrwydd dŵr, ac yn eu hysbrydoli i ystyried gwneud newidiadau bychain er mwyn gwneud gwahaniaeth mawr. Ein tîm ymroddgar o athrawon ar secondiad ac adborth cadarnhaol ein hysgolion sy’n rhoi’r tân yn ein boliau i barhau i gynorthwyo ysgolion eto fyth.”

Mae ymrwymiad Dŵr Cymru i addysgu’r genhedlaeth iau am werth dŵr wedi rhoi enw da i’r cwmni ymysg ysgolion ar draws Cymru a Henffordd. Ers lansiad ei strategaeth addysg, mae’r cwmni wedi gweithio gyda dros 680,000 o ddisgyblion. Mae’r rhaglen yn parhau i gyrraedd degau ar filoedd o ddisgyblion pob blwyddyn, gan daclu’r genhedlaeth nesaf â’r wybodaeth a’r sgiliau angenrheidiol i amddiffyn ein hadnodd mwyaf gwerthfawr.