Dŵr Cymru’n annog cwsmeriaid i amddiffyn eu pibellau am fod y ffigurau diweddaraf yn dangos nad oedd rhai cartrefi’n barod am y rhew a’r dadmer diweddar


19 Ionawr 2023

Mae Dŵr Cymru’n annog cwsmeriaid i sicrhau eu bod nhw’n barod am unrhyw dywydd oer pellach y gaeaf hwn trwy sicrhau eu bod yn amddiffyn eu cartrefi.

Mae’r ffigurau diweddaraf gan gawr y byd yswiriant, Admiral, yn awgrymu nad oedd llawer o gartrefi ar draws Cymru’n barod am y rhew a’r dadmer sydyn a welwyd ar draws y wlad ym mis Rhagfyr 2022. Yn ôl eu hadroddiadau, bu’r hawliadau am bibellau’n byrstio yng nghartrefi cwsmeriaid dair gwaith yn uwch nac yn Rhagfyr 2021.

Gall cwsmeriaid amddiffyn eu pibellau rhag tywydd oer pellach trwy lagio unrhyw bibellau sy’n agored i’r oerfel, fel rhai yn yr awyr agored, yn yr atig neu mewn cypyrddau, ac mewn unrhyw adeiladau a allai fod yn wag am ychydig ddyddiau. Mae Dŵr Cymru’n cynnig pecynnau lagio am ddim i gwsmeriaid sy’n cofrestru ar gyfer y cyfrifiannell Get Water Fit ar wefan y cwmni.

Un peth syml arall y gall cwsmeriaid ei wneud i baratoi er mwyn atal problemau yw gwybod ymhle mae eu stoptap mewnol. Bydd hyn yn caniatáu iddynt atal eu cyflenwad dŵr yn gyflym os bydd y gwaethaf yn digwydd.

Pan fo problem gyda phibellau dŵr cartrefi, cyfrifoldeb perchennog yr eiddo neu’r landlord yw ei thrwsio, felly mae hi’n bwysig fod pobl yn paratoi eu cartrefi am dywydd oer er mwyn osgoi byrst costus.

Dywedodd Noel Summerfield, Pennaeth Domestig gyda chwmni yswiriant Admiral: “Yn Admiral, rydyn ni’n cael miloedd o hawliadau am bibellau’n byrstio bob blwyddyn. Yn 2022 pibellau’n byrstio ac yn gollwng oedd i gyfrif am 84% o’r holl hawliadau am broblemau dŵr a gawsom ni.

“Rydyn ni’n gweld cynnydd sydyn yn yr hawliadau am bibellau’n byrstio ar ôl pob cyfnod o dywydd rhewllyd, ac roedd y cyfnod oer ym mis Rhagfyr yn arbennig o ddrwg. Yng Nghymru, cawsom dair gwaith yn fwy o hawliadau am bibellau’n byrstio nac mis Rhagfyr 2021, a bron i wyth gwaith yn fwy na Rhagfyr 2020 pan oedd y tywydd yn fwy mwyn.

“Mae cael pibell yn byrstio yn eich cartref yn ddigon i dorri calon rhywun, ac mae’n gallu achosi llawer o ddifrod. Os yw’r difrod yn helaeth, mae’n gallu cymryd amser i’ch eiddo sychu’n llwyr. Mae atal yn well nag adfer, felly mae’n gwneud synnwyr da gwneud beth y gallwch chi i atal y pibellau rhag byrstio yn y lle cyntaf.”

Arweiniodd y tywydd oer a’r dadmer sydyn a darodd rhan fwyaf o’r DU ym mis Rhagfyr 2022 at gynnydd o 300% yn nifer y prif bibellau a fyrstiodd ar draws Cymru o gymharu â’r flwyddyn flaenorol, ac roedd pethau’n arbennig o wael yn y de-orllewin. Byrstiodd y pibellau wrth i’r ddaear symud wrth ddadmer, a bu angen ymdrech aruthrol gan Ddŵr Cymru i’w trwsio nhw i gyd. Bu tua 650 o gydweithwyr yn gweithio am 14 diwrnod, gan gynnwys dros gyfnod yr ŵyl, i adfer cyflenwadau dŵr cwsmeriaid.

Cymhlethwyd pethau ymhellach wrth i’r broses o adfer pwysedd y pibellau beri i bocedi o aer ddatblygu yn y system, a bu angen cymryd pwyll wrth eu clirio er mwyn osgoi problemau pellach.

Dywedodd Richard Colwill, Pennaeth Dosbarthu Gwasanaethau Dŵr “Bu’r tywydd oer diweddar yn arbennig o ymestynnol i ni fel cwmni. Bu ein timau’n gweithio ddydd a nos i ganfod a thrwsio’r pibellau er mwyn atal cymaint o anghyfleustra â phosibl i’r cwsmeriaid. Ond yn anffodus, am fod y broblem mor helaeth, bu cyflenwadau rhai cwsmeriaid yn ysbeidiol, a chollodd rhai ohonynt eu cyflenwadau’n llwyr.

Gwelsom gynnydd yn nifer yr adroddiadau am bibellau’n byrstio ar eiddo cwsmeriaid hefyd. Felly, er bod y tywydd yn fwyn ar adegau, rydyn ni am atgoffa cwsmeriaid nad yw’r gaeaf wedi dod i ben eto, ac mae yna amser o hyd i amddiffyn eu cartrefi rhag byrst costus.

Bydd ein timau’n parhau i weithio 24/7 i gadw pethau’n llifo, ond mae angen ychydig bach o gymorth gan ein cwsmeriaid hefyd wrth sicrhau eu bod nhw’n amddiffyn eu cartrefi a’u busnesau."

Mae gennym nifer o becynnau lagio i gwsmeriaid i’w cynorthwyo i baratoi trwy lapio eu pibellau’n gynnes cyn i’r oerfel afael eto. Ac mae yna bob math o gymorth defnyddiol ar gael, ynghyd â chyngor a fideos esboniadol trwy fynd i Paratowch am y Gaeaf.