Dŵr Cymru i recriwtio mwy o brentisiaid nag erioed i’w raglen arobryn yn 2023


6 Chwefror 2023

Mae Dŵr Cymru, y cwmni dŵr nid-er-elw, yn recriwtio 50 o brentisiaid ar gyfer ei rhaglen yn 2023, sy’n nifer uwch nag erioed.

Ar ôl llwyddo i gadw 80% o’i brentisiaid ers 2018, mae Dŵr Cymru yn ymfalchïo’n fawr yn ei raglen hyfforddiant amrywiol a llwyddiannus, sy’n cwmpasu’r timau dŵr, dŵr gwastraff a gwasanaethau cynorthwyol.

Mae’r cynllun wedi ennill gwobrau yn y gorffennol, fel Gwobr Cynllun Prentisiaethau Gorau CIPD Cymru, a Gwobrau’r Brentisiaeth Ganolradd Orau, y Brentisiaeth Uwch Orau a’r Cyflogwr Gorau ym meysydd Ynni a’r Cyfleustodau yn y Gwobrau Darpariaeth wrth Ymadael â’r Ysgol.

Eleni, mae Dŵr Cymru’n cynnig swyddi ar draws amrywiaeth eang o rolau, gan gynnwys rolau gweithredol, ac ym meysydd technoleg gwybodaeth, y gwyddorau prosesu a gwasanaethau i gwsmeriaid, gan ganiatáu i bobl ifanc ymgymryd â phob math o wahanol yrfaoedd ac arbenigeddau.

I ddathlu Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau 2023, mae’r cwmni’n adlewyrchu ar lwyddiant y rhaglen, a’i allu i dyfu ei dalent ei hun i ddatblygu gweithwyr medrus sy’n llawn cymhelliant. Mae ganddo brofiad cadarn o gynnig rhaglen o brentisiaethau sy’n gallu mynd â phobl i unrhyw gyfeiriad, ac un o’r llwyddiannau hyn yw stori Prif Weithredwr y Cwmni, Peter Perry, a ymunodd â’r sefydliad fel prentis ar ôl ymadael â’r ysgol.

Dywedodd Miles Chilvers, a ddechreuodd ei yrfa fel prentis, ond sydd bellach yn Oruchwylydd Gweithredol: “Y rhaglen brentisiaethau oedd y llwybr perffaith i mi ar ôl cwblhau fy amser yn yr ysgol. Fe ddysgais i’r holl sgiliau oedd eu hangen arnaf i ar gyfer fy rôl fel Goruchwylydd Gweithredol heddiw, ac roedd gen i grŵp bendigedig o gydweithwyr cefnogol o’m cwmpas. A’r peth gorau un oedd i mi gael fy nhalu i ddysgu’r sgiliau newydd yna!”

Mae Dŵr Cymru’n recriwtio tua 30 o brentisiaid y flwyddyn – y mae rhai ohonynt yn cychwyn yn 16 oed ar ôl iddynt adael yr ysgol, a rhai eraill sydd wedi cael addysg bellach. Eleni, mae gennym 50 swydd ar gyfer prentisiaid newydd fel y gallwn barhau i ehangu ein cronfa o dalent er mwyn datblygu gweithlu medrus dros ben ar gyfer y dyfodol.

Dywedodd Chloe Edwards – Prentis Gwasanaethau Cwsmeriaid: “Mae prentisiaeth gyda Dŵr Cymru’n ffordd wych o dyfu a datblygu – ac fe gewch chi gymhwyster ar y diwedd hefyd!

Rwy’n credu bod llwyth o fanteision yn dod o ddod i mewn i’r busnes fel prentis, am ein bod ni’n cael hyfforddiant wrth ein gwaith ac yn gallu cysgodi cydweithwyr a dysgu’n uniongyrchol ganddynt. Rydyn ni’n gallu newid rolau o fewn yr adran bob chwe mis hefyd, sy’n agor y drws ar ragor o gyfleoedd i ddatblygu. Os ydych chi eisiau dysgu a chael hyfforddiant uniongyrchol wrth weithio, dyma’r rhaglen i chi.”

Dywedodd Ieuan Llewellyn, Prentis Carthffosiaeth a raddiodd yn ddiweddar ac a gafodd ei enwebu am wobr Hyfforddai’r Flwyddyn: “Fe ddewisais i brentisiaeth ar ôl gorffen yn yr ysgol oherwydd roeddwn i eisiau dysgu wrth weithio. Alla’i ddim â meddwl am gwmni gwell i weithio drosto am fod Dŵr Cymru’n rhoi ei gwsmeriaid yn gyntaf bob tro. Roeddwn i wedi clywed pa mor gefnogol oedden nhw o’u gweithwyr, ac rwy’n hoffi’r ffaith eu bod nhw’n gwmni nid-er-elw.”

Dywedodd Annette Mason, Pennaeth Talent a Chynwysoldeb y Cwmni: “Mae prentisiaethau’n arbennig o bwysig i ni yn Dŵr Cymru am eu bod nhw’n fuddsoddiad effeithiol a hirdymor er mwyn creu gweithwyr ffyddlon, cynyddu cyfraddau cadw staff, a meithrin gweithlu ymroddgar sy’n hybu creadigrwydd gan sbarduno mwy o wytnwch at y dyfodol.

“Rydyn ni’n buddsoddi mewn gweithwyr newydd sy’n dangos bod ganddyn nhw’r cymhelliant i ddysgu a thyfu, yn eu cynorthwyo ac yn eu datblygu - sy’n beth da i’r cwmni ac i’r unigolyn. Rydyn ni’n darparu rhaglen sgiliau sydd wedi ei theilwra’n arbennig ar gyfer pob rôl. Ers 2012, rydyn ni wedi cyflogi 243 o brentisiaid, ac mae 178 o’r rheiny wedi datblygu eu gyrfaoedd ymhellach gyda ni, ac maen nhw’n dal i fod yng nghyflogaeth Dŵr Cymru.”