Dŵr Cymru yn lansio ei Adroddiad Bioamrywiaeth


22 Chwefror 2023

Mae Dŵr Cymru wedi cyhoeddi ei Adroddiad Bioamrywiaeth blynyddol sy’n dangos amrywiaeth y cynlluniau y mae wedi’u cyflawni yn ystod y flwyddyn ddiwethaf i wella’r amgylchedd naturiol a’i ddiogelu.

Mae’r adroddiad, ‘Gwneud y Peth Iawn dros Natur’, yn amlinellu’r camau sydd wedi’u cymryd gan Dŵr Cymru yn ei ymrwymiadau i gyflawni ei weledigaeth a’i genhadaeth a nodir yn ei strategaeth bioamrywiaeth. Ei nod yw cynnal a gwella bioamrywiaeth yn rhan o gyflawni ei swyddogaethau ar gyfer llesiant cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol.

Yn cyflwyno’r adroddiad roedd Cyfarwyddwr yr Amgylchedd Dŵr Cymru, Tony Harrington sy’n arwain yr agendâu Amgylcheddol, Arloesi, a Gwyddoniaeth ar gyfer y busnes gyda’r nod o ddarparu amgylchedd diogel a chynaliadwy ar gyfer cwsmeriaid Dŵr Cymru a chenedlaethau’r dyfodol.

Dywedodd Tony, "Mae’n wych gweld angerdd ac ymrwymiad cydweithwyr a phartneriaid fel ei gilydd yn ein helpu ni i warchod, amddiffyn a gwella’r amgylchedd naturiol. Rydyn ni wedi gwneud cynnydd cadarn i wella ein hamgylchedd, ac i annog, addysgu a chefnogi’r rhai sy’n angerddol dros wneud gwahaniaeth."

"Mae’n parhau i fod yn hanfodol bod y sector dŵr ac amgylcheddol cyfan yn cydweithio mewn partneriaeth, pob un yn chwarae ei ran fel y gallwn ni ddarparu’r newidiadau y mae’r gymdeithas yn gofyn amdanyn nhw’n effeithiol a bydd angen hynny os ydyn ni’n mynd i drosglwyddo amgylchedd naturiol y gallan nhw ffynnu ynddo i’r cenedlaethau nesaf."

"Bydd partneriaethau o’r fath yn cynnwys llu o sefydliadau, gan gynnwys y llywodraeth, rheoleiddwyr, cyrff anllywodraethol amgylcheddol, diwydiant ac wrth gwrs cwsmeriaid. Bydd angen buddsoddiad ar y gwaith, a bydd angen ei ariannu a’i gefnogi gan bawb."

Roedd trawstoriad o randdeiliaid, gan gynnwys sefydliadau amgylcheddol, rheoleiddwyr, sectorau elusennau, cynghorwyr lleol, cynghorau cymuned a grwpiau cymunedol o bob rhan o Gymru a Henffordd yn bresennol yn y lansiad rhithwir.

Cyflwynodd Ymgynghorydd Bioamrywiaeth Dŵr Cymru, Gemma Williams, yr adroddiad gan dynnu sylw at y cynnydd ar y 30 ymrwymiad, y mae 21 ohonynt wedi’u cwblhau, ac mae 9 yn mynd yn eu blaen.

Dywedodd Gemma, "Mae’r adroddiad hwn o ddiddordeb i sawl cynulleidfa, gan gynnwys ein rheoleiddwyr, i ddangos sut mae Dŵr Cymru yn cyflawni ei ddyletswydd, wedi’i gryfhau o dan Ddeddf Amgylchedd (Cymru) 2016. Mae hefyd o fudd i’r sefydliadau sy’n ystyried gweithio mewn partneriaeth â Dŵr Cymru wrth ddarparu mentrau bioamrywiaeth, ac i’n cydweithwyr yn Dŵr Cymru sy’n awyddus i ddysgu sut y gallwn ni wneud amser i fyd natur, gan gefnogi bioamrywiaeth wrth i ni fynd ati yn ein gwaith bob dydd."

Rydym yn edrych ymlaen at ddeall yn fanylach beth yw disgwyliadau ein cwsmeriaid ar gyfer bioamrywiaeth, ecoleg yn ogystal â chynaliadwyedd a’r risg sy’n dod i’r amlwg gyda newid hinsawdd a fydd i gyd yn helpu blaengynllunio Dŵr Cymru"

Mae’r adroddiad yn canolbwyntio ar brosiectau buddsoddi ac ymgysylltu’r cwmni ar Rywogaethau Anfrodorol ymledol, partneriaethau gwaith ac arloesedd. Un enghraifft yw'r gwaith i glirio coetir heb ei reoli ac wedi'i esgeuluso yng nghoedwig Gwern-y-Bendy a rhan o weithfeydd Rhyd-y-Pennau sydd o fewn safle Cronfeydd Dŵr Llysfaen a Llanisien. Tynnwyd coed llawr-ceirios, rhywogaeth anfrodorol, oddi yno a gwnaed paratoadau i greu parth dysgu ac ysgol goedwig ar y safle.

Mae Dŵr Cymru hefyd wedi gosod offer arloesol 'Agri Sound' ar safle cronfa ddŵr Llys-y-Fran yng ngorllewin Cymru a gwaith trin dŵr gwastraff Cog Moors ym Mro Morgannwg. Mae'r offer yn monitro presenoldeb peillwyr ac yn casglu data ar dymheredd, lleithder, disgleirdeb, ac acwsteg. Bydd y data a gasglwyd yn darparu'r wybodaeth angenrheidiol i sefydlu manteision y gwaith gwella ar gyfer gweithgarwch peillwyr.

Mae un o’r prosiectau yn yr adroddiad eisoes wedi ennill Gwobr y Pwyllgor gan Wobrau Sefydliad Arloesi Dŵr ardal Cymru. Fe'i dyfarnwyd i Ymgynghorydd Cadwraeth Dŵr Cymru, Chloe White, am ddatblygu Pecynnau Gofal Bioamrywiaeth. Syniad y project oedd hybu gwell dealltwriaeth o fioamrywiaeth gyda chydweithwyr ar draws meysydd gweithredol Dŵr Cymru, gan roi canllawiau i reolwyr safle ar sut y gallent hybu bioamrywiaeth ar eu hardaloedd.

Drwy godi ymwybyddiaeth, ysgogi perchnogaeth, a chanoli prynu adnoddau, mae ugain safle wedi gweld gwelliant mewn ymdrechion bioamrywiaeth gyda 30kg o hadau blodau gwyllt brodorol wedi’u hau, 40 blwch ystlumod, dau westy pryfed, 65 bocs adar o wahanol feintiau wedi’u gosod a 200 o fylbiau clychau’r gog a chennin Pedr brodorol wedi’u plannu.

Mae’r adroddiad hefyd yn cynnwys gwybodaeth am gyfraniad Dŵr Cymru at y prosiect Pedair Afon LIFE sy’n werth miliynau o bunnoedd, sydd â dull gweithredu aml-randdeiliaid at wella cynefinoedd ac amodau afonydd ar gyfer pysgod mudol yn ogystal â chydweithio â ffermwyr i amddiffyn coridorau afonydd a lleihau gwaddodion a maethynnau rhag mynd i mewn i afonydd. Bydd gan hyn y fantais ychwanegol o ddiogelu cyflenwadau dŵr yfed pwysig.

Gwnaeth yr adroddiad bioamrywiaeth a lansiwyd yr wythnos hon hefyd gyd-fynd â chyhoeddi cynlluniau hirdymor Dŵr Cymru i helpu i ddiogelu Afonydd Ardaloedd Cadwraeth Arbennig.

Mae Dŵr Cymru wedi’i ymrwymo i ddatblygu’r ymdrechion sydd wedi’u nodi yng nghenhadaeth Dŵr Cymru 2050 i gefnogi’r gwaith o gyflawni llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) (Deddf 2015) gyda’r nod o wella llesiant economaidd, amgylcheddol, a diwylliannol Cymru.

Ar ddechrau 2022 cyhoeddwyd strategaeth bioamrywiaeth newydd, gan nodi uchelgeisiau, nodau ac amcanion Dŵr Cymru i alluogi’r busnes i barhau i gyflawni ei swyddogaethau craidd wrth gefnogi rheoleiddwyr amgylcheddol, Cyfoeth Naturiol Cymru, a Llywodraeth Cymru i ymdrin â’r argyfwng bioamrywiaeth.

Yn dilyn lansio’r adroddiad, bydd Dŵr Cymru’n cynnal gweithdai bioamrywiaeth fel y gall rhanddeiliaid gyfrannu syniadau ar gyfer cyhoeddi ei Gynllun Gweithredu Bioamrywiaeth blaengar yn Rhagfyr 2023.

Lawrlwythwch yr Adroddiad Bioamrywiaeth yma neu gwrandewch ar yr hyn yr oedd gan banel arbenigol a rhanddeiliaid Dŵr Cymru i’w ddweud am yr adroddiad.