Cwsmeriaid Dŵr Cymru i gael ad-daliad o £10 wrth i’r cwmni ymddiheuro am adroddiadau rheoliadol gwallus yn 2020 a 2021


25 Mai 2023

Bydd pob un o gwsmeriaid Dŵr Cymru’n derbyn ad-daliad o £10 ar ôl i adolygiad mewnol o adroddiadau’r cwmni ar ollyngiadau a defnydd fesul pen (h.y. faint o ddŵr sy’n cael ei ddefnyddio gan bob cwsmer) ganfod nad oedd elfennau o’i gyfrifiadau ar gyfer y mesurau allweddol hyn ar gyfer blynyddoedd 2020-2022 yn cydymffurfio â’r gofynion rheoliadol.

Cododd prosesau sicrwydd Dŵr Cymru ei hun bryderon ar y mater, ac mae’r rhain wedi cael ei hadolygu’n llawn dros y 15 mis diwethaf gyda chymorth arbenigwyr annibynnol. Roedd Dŵr Cymru eisoes wedi datgelu bod adroddiadau ar y ddau fesuriad yma’n destun adolygiad.

Canfu’r adolygiad bod diffygion o ran goruchwylio llywodraethiant a rheolaeth wedi arwain at y problemau a ddaeth i’r amlwg yn ystod y broses sicrwydd, ac mae’r rhain bellach wedi cael eu datrys.

Mae’r ailddatganiad o’r ffigurau’n dangos bod gollyngiadau’n uwch nag a nodwyd yn wreiddiol, a bod y defnydd fesul pen yn is. Mae’r ddau fesuriad yn gysylltiedig â’i gilydd o ran eu natur.

Cyfanswm y gollyngiadau ar gyfer 2021/22 oedd 240.3ml/d o gymharu â’r 157.4ml/d a nodwyd yn wreiddiol. Mae hyn gyfwerth â 8.6m3 y km o brif bibellau y dydd, ac mae’n cymharu â’r data diweddaraf sydd ar gael ar draws y diwydiant (o adroddiadau perfformiad blynyddol cwmnïau ar gyfer 2021/22), sy’n amrywio rhwng 4.5m3/km/dydd (Anglian) ac 18.7 m3/km/d (Thames Water).

Mae ailddatgan y data am ddefnydd fesul pen i adlewyrchu’r newid yn golygu lleihad o 174.7 litr/dydd i 154.8 litr/dydd. Mae’r data cymharol diweddaraf sydd ar gael (o adroddiadau blynyddol ar berfformiad cwmnïau dŵr ar gyfer 2021/22) yn dangos bod y defnydd fesul pen gan gwmnïau yng Nghymru a Lloegr yn amrywio rhwng 131.5 litr/dydd (Yorkshire) a 160.3 litr/dydd (Portsmouth Water).

Am fod hyn yn dangos bod gollyngiadau wedi bod yn rhedeg ar lefel uwch o lawer nag a gydnabu o’r blaen, mae’r cwmni wedi dyrannu £54m ychwanegol i daclo gollyngiadau dros y ddwy flynedd nesaf er mwyn lleihau’r lefel cyn gynted â phosibl. Bydd Dŵr Cymru’n gwario cyfanswm o £284m yn hyn o beth rhwng 2020 a diwedd yr AMP yma yn 2025.

Dywedodd Peter Perry, Prif Swyddog Gweithredol y cwmni: “Mae’n ddrwg iawn gennym ni ac rydyn ni’n siomedig fod hyn wedi digwydd. Byddwn ni’n buddsoddi £54m ychwanegol dros y 2 flynedd nesaf i ganfod gollyngiadau a’u lleihau cyn gynted â phosibl, ac rydyn ni wedi rhannu canfyddiadau ein hymchwiliadau â’n rheoleiddiwr. Er taw ein proses sicrwydd gadarn ni a ganfu’r broblem, roedd yna ddiffygion yn ein prosesau goruchwylio llywodraethiant a rheolaeth a ganiataodd i hyn ddigwydd yn y lle cyntaf. Rydyn ni wedi gwneud y newidiadau angenrheidiol o ran ein dulliau o adrodd ar ollyngiadau, ac wedi cau’r bylchau yn ein prosesau adrodd a llywodraethu.”

Mae Ofwat wedi cadarnhau heddiw eu bod yn adolygu’r wybodaeth a ddarparwyd ar eu cyfer cyn penderfynu a oes angen cymryd camau pellach. Ni chaiff unrhyw sylw pellach ei wneud ar y mater hwn nes bod Ofwat wedi cwblhau eu ymchwiliad.

Generic Document Thumbnail

Cwestiynau ac Atebion am yr ad-daliad £10

PDF, 116.6kB