Prosiect £10 miliwn yng Nghwm Rhymni i uwchraddio’r rhwydwaith dŵr yn nesáu at ei derfyn yn y Deri


23 Ionawr 2023

Mae Dŵr Cymru Welsh Water wedi buddsoddi £10 miliwn i uwchraddio’r rhwydwaith dŵr yng Nghwm Rhymni. Hyd yn hyn, mae’r cwmni wedi gosod tua 11km o bibellwaith newydd sbon yn Rhymni a Bargoed, a’r bwriad yw cwblhau’r gwaith buddsoddi trwy adnewyddu 2km pellach yn ardal y Deri.

Mae hynny’r un hyd â 124 o gaeau pêl-droed! Bydd y pibellau newydd yn sicrhau bod cwsmeriaid yn mwynhau cyflenwad diogel, dibynadwy o ddŵr yfed glân am ddegawdau i ddod.

Mae’r cwmni nid-er-elw yn parhau i gydweithio’n agos â Envolve Infrastructure a’r awdurdod lleol i gynllunio a chyflawni’r gwaith gan darfu cyn lleied â phosibl ar y gymuned lle bo modd. Mae hyn wedi cynnwys defnyddio technegau arloesol fel ‘llithrleinio’ sy’n cynnwys gwthio pibell newydd trwy’r bibell gyfredol, gan osgoi’r angen am dorri ffos fawr yn y briffordd. Mae’r dechneg hon yn gynt o lawer hefyd o gymharu â dulliau mwy traddodiadol.

Er mwyn arddangos prosiectau buddsoddi Dŵr Cymru a’r dechnoleg newydd arloesol a ddefnyddiwyd, mae’r cwmni wedi rhyddhau ‘Ffilm Astudiaethau Parth’ sy’n dangos y cynnydd a wnaed yn Rhymni:

Dywedodd Chris Moore, Rheolwr Prosiect Dŵr Cymru: “Fel cwmni, rydyn ni’n buddsoddi £1.8 biliwn yn ein rhwydwaith dŵr a dŵr gwastraff er mwyn sicrhau y gallwn ddarparu’r gwasanaeth gorau posibl ar gyfer ein cwsmeriaid. Yn hynny o beth, rydyn ni wrthi’n buddsoddi £10 miliwn i uwchraddio’r rhwydwaith dŵr yng Nghwm Rhymni. Yn ogystal â helpu i wella ansawdd ein dŵr yfed ar gyfer cwsmeriaid yn yr ardal, bydd hyn yn helpu i sicrhau eu bod yn derbyn cyflenwadau dŵr yfed glân a ffres am flynyddoedd mawr i ddod.

"Rydyn ni’n deall bod ein gwaith wedi bod yn anghyfleus ar adegau, ac rydyn ni’n ddiolchgar i’r gymuned am eu hamynedd wrth i ni gyflawni ein gwaith. Hoffem eu sicrhau nhw y byddwn ni’n cyflawni’r cyfan cyn gynted â phosibl ac yn ddiogel."

Er mwyn diolch i’r gymuned leol am eu hamynedd yn ystod y gwaith, mae’r cwmni nid-er-elw wedi dyfarnu dros £7,000 i grwpiau cymunedol yn Rhymni a Bargoed trwy ei Gronfa Gymunedol ac wedi cyfrannu £5,000 pellach at y banc bwyd lleol.

Mae Cronfa Gymunedol Dŵr Cymru yn gyfle i gwmnïau hybu ymdrechion i godi arian at achosion da yn eu hardal. Os ydych chi’n byw mewn ardal lle mae gwaith yn cael ei wneud – ac yn codi arian at brosiect er budd y gymuned – gallech gael gwerth hyd at £1,000 o gyllid gan Ddŵr Cymru. Am ragor o fanylion, ewch i www.dwrcymru.com/Community-Fund.

I gael rhagor o fanylion am y gwaith buddsoddi yma, ewch i www.dwrcymru.com/Rhymney-Bargoed.