Buddsoddiad gwerth £3.5 miliwn i wella amgylchedd dŵr Weblai wedi ei gwblhau


27 Mawrth 2023

Mae Dŵr Cymru wedi cwblhau buddsoddiad gwerth £3.5 miliwn i helpu i wella ansawdd dŵr afonol yn Nant Newbridge ac afon Gwy.

Mae’r gwaith a gyflawnwyd gan y cwmni dŵr nid-er-elw yn cynnwys uwchraddio’r gweithfeydd trin dŵr gwastraff sydd dan ei berchnogaeth ac sy’n gweithredu yn yr ardal.

Mae’r gweithfeydd trin eisoes yn trin y dŵr gwastraff y mae’n ei dderbyn o’r ardal gyfagos i safon uchel, ond mae’r gwaith uwchraddio wedi gwella’r broses eto fyth.

Y prif welliant yw cyflwyno proses arloesol sy’n tynnu’r ffosffadau o’r dŵr gwastraff wedi ei drin. Gall ffosffadau achosi gordyfiant o algâu, felly bydd eu tynnu o’r dŵr gwastraff wedi ei drin yn helpu i leihau’r lefelau yn afon nant Newbridge sydd gerllaw - a bydd hyn, yn ei dro, yn llesol i ansawdd yr afon a’i fywyd dyfrol.

Dywedodd Uwch Reolwr Prosiect Dŵr Cymru, Andrew Davies: “Mae’n falch gennym gyhoeddi ein bod wedi cwblhau ein gwaith buddsoddi yn ardal Weblai. Mae’r buddsoddiad hwn yn un o 11 prosiect a gynlluniwyd ar gyfer ein cyfnod buddsoddi rhwng 2020 a 2025 a fydd yn helpu i wella ansawdd y dŵr yn afon Gwy. Mae’n adlewyrchu ein hymrwymiad i ail-fuddsoddi elw’n uniongyrchol er budd ein cwsmeriaid, y cymunedau a wasanaethwn a’n hamgylchedd gwerthfawr.

Er y bydd ein buddsoddiad yn lleihau ein cyfraniad at lefelau’r ffosffadau, ni fydd yn lleihau’n ffosffadau y mae eraill yn eu cyfrannu at yr afon. Ond rydyn ni wedi ymrwymo i weithio ar y cyd â nhw lle bo modd, oherwydd yn y pendraw, mae’r afon yn bwysig i ni i gyd ac rydyn ni am sicrhau ein bod ni’n ei throsglwyddo i genedlaethau’r dyfodol mewn cyflwr gwell.”

Mae’r cwmni’n cyflawni gwaith tebyg yn y gweithfeydd trin dŵr gwastraff yn Rotherwas, Llanllieni, Kingstone & Madley a Clehonger hefyd. I gael rhagor o fanylion am beth mae’r cwmni’n ei wneud i helpu i wella ansawdd dŵr afonol, ewch i yma