Menter Deallusrwydd Artiffisial (AI) Dŵr Cymru i drawsnewid gwaith monitro Algâu yn derbyn £385,000 yng nghystadleuaeth arloesi ddiweddaraf Ofwat


19 Mai 2023

Yr wythnos hon mae syniad Dŵr Cymru am brosiect arloesol i ddefnyddio deallusrwydd artiffisial (AI) er mwyn gwella’r ffordd y mae cwmnïau dŵr yn monitro lefelau algâu mewn cronfeydd dŵr wedi derbyn gwerth £385,000 o gyllid trwy Gronfa Arloesi Ofwat.

Mae’r prosiect yn un o 16 ateb sydd wedi derbyn cyfran o £40 miliwn heddiw yng nghystadleuaeth arloesi ddiweddaraf y rheoleiddiwr dŵr - y Sialens Torri Tir Newydd ym maes Dŵr.

Bydd menter Dŵr Cymru Welsh Water yn defnyddio deallusrwydd artiffisial (AI) i drawsnewid gwaith monitro algâu i fod yn broses trwygyrch uchel, cywir iawn yn y labordy neu yn y maes, a hynny am ffracsiwn o’r gost o gymharu â dulliau traddodiadol o fonitro algâu, a bydd hyn yn caniatáu ar gyfer darogan risgiau yn well a fydd yn galluogi’r cwmnïau dŵr i weithredu’n gynt ac mewn ffordd fwy cost-effeithiol sydd wedi ei thargedu’n well.

Mae’r Sialens Torri Tir Newydd yn hyrwyddo mentrau sy’n helpu i daclo’r sialensiau mwyaf sy’n wynebu’r sector dŵr, fel cyflawni sero net, amddiffyn ecosystemau naturiol a lleihau gollyngiadau, yn ogystal â darparu gwerth i’r gymdeithas.

Dywedodd Phil Jones, Rheolwr Datblygu Technegol Dŵr Cymru Welsh Water: “Mae sicrhau bod dŵr yfed yn ddiogel i’w yfed yn gofyn am waith monitro parhaus, a darogan risgiau. Mae hyn yn wir o ran y risgiau i ansawdd dŵr sy’n gysylltiedig ag algâu a cyanobacteria er enghraifft, sef cyfansoddion sy’n achosi blas a drewdod, y disgwylir iddynt gynyddu o ran amledd a dwyster yn sgil y newid yn yr hinsawdd. Mae monitro algâu gan ddefnyddio’r dulliau traddodiadol yn cymryd lawer o amser ac adnoddau, ac nid yw’n darparu digon o ddata i fodelu a darogan risgiau algaidd. Bydd y cyllid yma’n ein galluogi ni i gymryd cam sylweddol yn ei flaen wrth ddadansoddi algâu, ac yn cynyddu’r defnydd o ddata algaidd i ddarogan risgiau o ran ansawdd. Daw hyn â manteision i gwsmeriaid a’r gymdeithas ar led, am y bydd yn taclu’r diwydiant dŵr yn well i fynd i’r afael â sialensiau algaidd cyfredol sy’n ymwneud ag ansawdd dŵr, nawr ac yn y dyfodol.”

Dywedodd David Black, Prif Weithredwr Ofwat: “Mae’r sector dŵr wedi wynebu pwysau cynyddol o du’r sialensiau systemaidd sy’n gysylltiedig â’r amgylchedd a’r gymdeithas, tra bod yr hinsawdd o’n cwmpas yn parhau i newid yn ddramatig. Dyna pam ein bod ni’n ariannu prosiectau sy’n torri tir newydd sydd â’r potensial i’n helpu ni i arbed ac ailddefnyddio cynhyrchion dŵr a dŵr gwastraff, wrth gynorthwyo’r gymdeithas ehangach hefyd.”

Mae’r Sialens Torri Tir Newydd ym maes Dŵr yn rhan o gyfres o gystadlaethau, sy’n cael eu rhedeg gan Challenge Works gydag Arup ac Isle Utiliies ar ran Ofwat, â’r nod o sbarduno arloesedd a chydweithio yn y sector er budd unigolion, y gymdeithas a’r amgylchedd.

Mae rowndiau blaenorol y gystadleuaeth wedi sbarduno nifer o brosiectau arloesol sydd wedi ennill cyllid yn seiliedig ar eu potensial i fod yn fuddiol i gwsmeriaid, y gymdeithas a’r amgylchedd, fel atebion sy’n cyflwyno systemau storio dŵr glaw mewn cymunedau lleol a rhai sy’n lleihau’r galw am ddŵr mewn prosiectau adeiladu newydd.

Gellir cael rhagor o fanylion am enillwyr y Sialens Torri Tir Newydd ym maes Dŵr yma.