Barbara Moorhouse wedi ei phenodi’n Gyfarwyddwr Anweithredol ac yn Ddarpar-Gadeirydd Pwyllgor Ansawdd a Diogelwch Bwrdd Glas Cymru


12 Ionawr 2023

Mae Glas Cymru, y cwmni nid-er-elw sy’n berchen ar Ddŵr Cymru, wedi cyhoeddi heddiw y bydd Barbara Moorhouse yn ymuno â’r Bwrdd fel Cyfarwyddwr Anweithredol ar 16 Ionawr 2023. Gwnaed y penodiad hwn wrth baratoi ar gyfer ymddeoliad Graham Edwards fel Cyfarwyddwr Anweithredol a Chadeirydd y Pwyllgor Ansawdd a Diogelwch ym mis Gorffennaf 2023, a bwriedir iddi ei olynu yn rôl fel Cadeirydd y Pwyllgor.

Mae gan Barbara brofiad helaeth fel arweinydd ar draws y sectorau preifat, cyhoeddus a rheoledig. Hi yw Cadeirydd Agility Trains Group, sef cwmni gwasanaethau trên dan berchnogaeth breifat. Mae Barbara’n Uwch Gyfarwyddwr Annibynnol ac yn Gadeirydd Pwyllgor Cydnabyddiaeth Ariannol Aptitude Software Group plc, yn Gyfarwyddwr Anweithredol gyda Balfour Beatty plc, ac yn Gyfarwyddwr Anweithredol ac yn Gadeirydd Pwyllgor Archwilio Medica Group plc.

Yn ystod ei gyrfa yn y byd busnes, mae Barbara wedi cyflawni nifer o benodiadau masnachol ac ariannol. Bu’n Gadeirydd y Bwrdd Diogelwch a Safonau’r Rheilffordd, yn Gyfarwyddwr Cyffredinol y Weinyddiaeth Gyfiawnder a’r Adran Drafnidiaeth, yn Gyfarwyddwr Cyllid Grŵp Kewill Systems plc a Morgan Sindall plc. Bu’n Gyfarwyddwr Rheoliadol South West Water plc yn y cyfnod yn dilyn preifateiddio.

Dywedodd Alistair Lyons, Cadeirydd Glas Cymru: “Rydw i wrth fy modd fod Barbara’n ymuno â Bwrdd Glas Cymru. Mae cyfoeth ei phrofiad o waith ar wahanol Fyrddau a’i dealltwriaeth am y sector dŵr yn ei gwneud hi’n ddelfrydol i olynu Graham Edwards fel Cadeirydd ein Pwyllgor Ansawdd a Diogelwch.”

Dywedodd Barbara Moorhouse: “Mae hi’n bleser cael dod â fy mhrofiad i Fwrdd Glas Cymru wrth iddo ddatblygu ei gynllun busnes pum mlynedd nesaf i’w gyflwyno i Ofwat yn ddiweddarach eleni. Rwy’n edrych ymlaen at gael ailymuno â’r diwydiant dŵr ar yr adeg allweddol yma yn y drafodaeth am ansawdd dŵr a safonau amgylcheddol at y dyfodol.”