Data Monitro Hyd Digwyddiadau 2022


31 Mawrth 2023

Heddiw, rydym wedi cyhoeddi ein data Monitro Hyd Digwyddiadau ar gyfer 2022.

Mae Teclynnau Monitro Hyd Digwyddiadau (EDM) yn cofnodi nifer y troeon y mae ein gorlifoedd storm yn gweithredu ac am ba hyd. Mae teclynnau monitro bellach ar dros 99.5% o’n gorlifoedd, felly gallwn ddarparu rhai o’r adroddiadau mwyaf cynhwysfawr ar eu perfformiad. Rydyn ni’n rhannu’r wybodaeth yma â’n rheoleiddwyr amgylcheddol, ac yn darparu gwybodaeth amser real ar rai dyfroedd ymdrochi ar gyfer cyrff sydd â diddordeb, gan gynnwys Syrffwyr yn erbyn Carthffosiaeth a’r Ymddiriedolaethau Afonydd.

Mae ein data ar gyfer 2022 yn dangos y gwelwyd:

  • Gostyngiad o 12% yn nifer gyfartalog y troeon y rhyddhawyd dŵr storm fesul gorlif storm o gymharu â 2021, o 43.5 i 38.3
  • Gostyngiad o 25% yn hyd y digwyddiadau gorlif yn 2022, o 807512 awr i 602987.5 awr

Er ein bod ni’n falch o weld y gostyngiad yma, sydd diolch yn rhannol i’r gwaith buddsoddi rydym ni’n ei gyflawni i leihau gorlif, bu’r tywydd a gawsom ni’r llynedd yn ffactor hefyd. Bu’r glawiad blynyddol ar gyfer y flwyddyn 10% yn is na’r cyfartaledd tymor hir, fe welsom ni’r cyfnod mwyaf sych rhwng Ionawr ac Awst ers 1976, a chyhoeddwyd amodau sychder ar draws rhannau o Gymru a Lloegr.

Nid yw dileu gorlifoedd storm yn llwyr o’n system yn fforddiadwy, a byddai’n cymryd degawdau i’w gyflawni, felly nid yw hynny’n opsiwn i ni, ond mae’r gallu i dargedu buddsoddiad ar y CSOs sy’n cael yr effaith fwyaf ar ein hamgylchedd yn rhywbeth sydd o fewn ein rheolaeth. Dyna pam ein bod ni’n buddsoddi’n helaeth i wella CSOs, gan fuddsoddi £140m rhwng 2020-2025, ac mae yna gynlluniau i fuddsoddi £420m pellach rhwng 2025 a 2030.

Mae ein data EDM ar gyfer 2022 i’w weld ar ein map rhyngweithiol ar ein gwefan. Cliciwch yma i gyrraedd y tudalen.

Mae ein buddsodddiad yn ein rhwydwaith dŵr gwastraff wedi sicrhau gwelliannau gwirioneddol ac wedi helpu i sicrhau bod gan Gymru dros draean o draethau Baner Las y DU tra mai dim ond 15% o’r arfordir sydd ganddi a bod 40% o’n hafonydd a’n cyrff dŵr yn cyrraedd statws ecolegol da o gymharu ag 16% yn Lloegr. Serch hynny, rydyn ni’n cydnabod bod angen gwneud rhagor i amddiffyn ansawdd dyfroedd ymdrochi ac afonol gyda’r ddeddfwriaeth amgylcheddol yn tynhau a disgwyliadau cwsmeriaid yn newid. Mae taclo llygredd ffosfforws yr un mor bwysig â thaclo’r CSOs, ac rydyn ni’n cyflawni rhaglen gynhwysfawr o waith i uwchraddio ei gweithfeydd trin dŵr gwastraff er mwyn tynnu 90% o’r ffosfforws o’r dŵr a ryddheir o’r gweithfeydd erbyn 2030. Rydyn ni newydd gyhoeddi ein Maniffesto ar gyfer Afonydd yng Nghymru sy’n amlinellu sut y byddwn ni’n buddsoddi yn ein rhwydwaith dŵr gwastraff, ac yn arbennig yng nghyffiniau Ardaloedd Cadwraeth Arbennig.

Gallwch weld ein Maniffesto yma.