Hwb £12 miliwn i amgylchedd dyfrol Llanllieni


30 Mai 2023

Bydd yr amgylchedd dyfrol yn Llanllieni a’r cyffiniau’n cael hwb diolch i gynllun buddsoddi ar gost o £12 miliwn sy’n cael ei gyflawni gan Ddŵr Cymru ar hyn o bryd.

Nôl ym mis Rhagfyr 2022, dechreuodd y cwmni cyfleustod nid er elw waith ar brosiect i uwchraddio’r gweithfeydd trin dŵr gwastraff y mae’n berchen arnynt ac yn eu gweithredu yn yr ardal.

Mae’r gweithfeydd trin eisoes yn trin y dŵr gwastraff y mae’n ei dderbyn o’r ardal gyfagos i safon uchel, ond bydd y gwaith uwchraddio’n gweld gwelliannau pellach i’r broses drin.

Trwy ddefnyddio dulliau arloesol, y prif welliant fydd cyflwyno proses sy’n tynnu’r ffosffadau o’r dŵr gwastraff wedi ei drin. Gall ffosfforws achosi gordyfiant o algâu, felly bydd eu tynnu o’r dŵr gwastraff wedi ei drin yn helpu i leihau’r lefelau yn afon Llugwy sydd gerllaw – a bydd hyn, yn ei dro, yn llesol i ansawdd yr afon a’i fywyd dyfrol.

Mae’r gwaith uwchraddio’n cael ei gyflawni o fewn ffiniau’r gweithfeydd trin ger Southern Avenue yn Llanllieni. Nod y cwmni yw cwblhau’r gwaith yng ngwanwyn y flwyddyn nesaf.

Bu Cyngor Tref Llanllieni’n ymweld â’r safle’n gynharach eleni i glywed rhagor am sut mae eu gwastraff yn cael ei drin ac i weld sut mae’r gwaith yn mynd.

Dywedodd llefarydd o Gyngor y Dref: “Roedd hi’n ddefnyddiol dros ben clywed sut mae Dŵr Cymru’n buddsoddi yn nyfodol Llanllieni a’r afon wrth edrych tua’r dyfodol. Roeddem ni wrth ein bodd ar y trefniadau Iechyd a’r Diogelwch ar y safle, a gallu’r staff i esbonio’r broses i’r cynghorwyr a fi ar lefel y gallem ei deall yn rhwydd.”

Dywedodd Uwch Reolwr Prosiect Dŵr Cymru, Andrew Davies: “Fel cwmni, rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau ein bod ni’n amddiffyn yr amgylchedd sydd yn ein gofal, ac mae hynny’n cynnwys y cyrsiau dŵr rydym yn rhyngweithio â nhw. Mae yna nifer o ffactorau sy’n cyfrannu at lefelau’r ffosffadau yn ein cyrsiau dŵr, ac rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau ein bod ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i gadw ein cyfraniad mor isel â phosibl. Mae ein buddsoddiad sylweddol yma yn Llanllieni’n adlewyrchu hyn.”

Cyhoeddodd y cwmni ‘faniffesto’ sy’n amlinellu ei gynlluniau i fuddsoddi er mwyn gwella ansawdd y dŵr afonol yn ei ardal weithredu yn ddiweddar, gan gydnabod pryderon cynyddol y cyhoedd am iechyd afonydd ac amlinellu ein hymrwymiad i gyflawni gwelliannau trwy ein rhaglen fuddsoddi.

Mae’r gwaith sy’n cael ei gyflawni yn Llanllieni’n rhan o fuddsoddiad £840 miliwn y cwmni yn ei seilwaith dŵr gwastraff rhwng 2020 a 2025. Bwriedir buddsoddi £1.4 biliwn pellach rhwng 2025 a 2030 a fydd yn helpu i amddiffyn yr amgylchedd.