Gwaith i ddechrau ar bont bibellau Dolgarrog


4 Mai 2022

Bydd y gwaith i adfer ac ailagor pont bibellau Dolgarrog yn Nyffryn Conwy’n dechrau'r mis nesaf (mis Mai) diolch i fuddsoddiad o £1.9 miliwn.

Mae'r bont yn croesi afon Conwy gan gludo dwy bibell sy'n darparu cyflenwadau dŵr yfed cartrefi a busnesau Dyffryn Conwy, ond mae llawer o drigolion lleol yn defnyddio'r bont fel llwybr cerdded, ac i fynd rhwng pentref Dolgarrog a'r orsaf drenau hefyd.

Caeodd y bont yn wreiddiol yn Ionawr 2021 yn sgil pryderon difrifol am ei chyflwr, ac ymrwymodd Dŵr Cymru i weithio gyda rhanddeiliaid a phartneriaid lleol i gyflawni gwaith gwella a diogelwch ar y strwythur er mwyn caniatáu i'r bont agor i'r cyhoedd eto.

Mae'r cwmni dŵr nid-er-elw wedi bod yn cydweithio'n agos â Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i ddatblygu'r dyluniadau fel y gellir ailagor y bont, a datgelwyd darluniau o'r gwaith uwchraddio i drigolion lleol mewn achlysur rhannu gwybodaeth yn Nolgarrog yn ddiweddar.

Ynghyd â buddsoddiad Dŵr Cymru o £1.2 miliwn mewn gwaith i gryfhau a gwella'r bont, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi diogelu grant gwerth gan Lywodraeth Cymru i greu llwybr teithio llesol ar draws y bont hanesyddol.

Dywedodd Ian Christie, Rheolwr Gyfarwyddwr Dŵr Cymru; "Cyflawnwyd asesiadau ar y bont y llynedd, ac oherwydd ei chyflwr peryglus bu angen ei chau dros dro wrth i ni adolygu'r strwythur. Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydyn ni wedi bod yn cydweithio'n agos â'n partneriaid i ddylunio pont sy’n addas fel llwybr cyd-ddefnydd i seiclwyr a cherddwyr, yn ogystal â'n helpu ni i amddiffyn a chynnal ein seilwaith. Mae’r ffaith ein bod ni wedi dod o hyd i ddyluniad sy'n cyfuno'r ddau beth yn newyddion gwych, ac mae'n golygu y gallwn agor y bont i'r cyhoedd eto.

Mae Dŵr Cymru wedi bod yn cydweithio'n agos â Janet Finch-Saunders AS, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Network Rail a Thrafnidiaeth Cymru i gydlynu’r cynlluniau er mwyn sicrhau bod y buddsoddiad pwysig yma'n dod â manteision sylweddol i'r ardal.

Ychwanegodd Ian Christie: "Mae'r buddsoddiad sylweddol yma yn y bont yn adlewyrchu ein hymrwymiad i ail-fuddsoddi elw'n uniongyrchol er lles ein cwsmeriaid a chymunedau lleol. Rwy'n falch ein bod ni wedi gallu cydweithio'n agos â phartneriaid lleol er mwyn sicrhau bod y gwelliannau yma'n dod â buddion a chyfleoedd helaeth i'r ardal leol."

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy: "Rydyn ni'n falch o gael gweithio gyda Dŵr Cymru i wella'r llwybr cerdded a seiclo yma sy'n darparu cysylltiad trafnidiaeth integredig pwysig ar gyfer y gymuned leol a'r ardal ehangach. Bydd y gwelliannau i'r bont yn golygu y gall pobl ddewis teithio mewn ffordd gynaliadwy heb orfod dibynnu ar gerbydau modur."

Bydd gwaith Dŵr Cymru ar y bont yn dechrau yn gynnar ym mis Mai, a chaiff ei gwblhau cyn y Nadolig. Mae rhagor o fanylion ar y gwelliannau ar wefan Dŵr Cymru yma

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy fydd yn cyflawni'r gwelliannau i'r trac y naill ochr a’r llall i'r bont.