Dŵr Cymru i fuddsoddi £100 miliwn ychwanegol cyn diwedd 2025 i wella Ansawdd Dŵr Afonydd


8 Awst 2022

Yn dilyn Uwchgynhadledd Ffosffad y Prif Weinidog yn Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru yn Llanelwedd ddydd Llun 18 Gorffennaf, mae Dŵr Cymru wedi amlinellu cynigion i fuddsoddi £100 miliwn yn ychwanegol cyn diwedd 2025 i leihau gollyngiadau Ffosffad o'i weithfeydd trin dŵr gwastraff ac i leihau effaith Gorlifoedd Storm Cyfun. Mae hyn yn ychwanegol at yr £836m a gyllidebwyd ar ei gyfer eisoes yn ei Gynllun Busnes ar gyfer 2020-2025.

Mae’r £100 miliwn ychwanegol, yn amodol ar gymeradwyaeth rheoleiddiol, ar gyfer galluogi cyflwyno yn gynharach cynlluniau buddsoddi o'r cyfnod rheoleiddio nesaf (2025-2030) gan gynnwys tua £60 miliwn i leihau ein cyfraniad o ffosffadau i afonydd allweddol, a buddsoddiad o £40 miliwn i leihau ollyngiadau o gorlifoedd storm cyfun. Byddai hyn yn cynnwys lleihau ffosffad yn y Fenni, Aberhonddu, Treletert, Llanybydder, Trefynwy a Wolfscastle, gan gefnogi gwelliannau ar afonydd Wysg, Gwy, Cleddau a Teifi.

Mae Dŵr Cymru hefyd wedi cyhoeddi papur trafod ar wella ansawdd dŵr afonydd sy'n cynnig dull cydweithredol i sicrhau bod yr arian sydd ar gael - o bob ffynhonnell – yn cael ei dargedu lle ceir yr effaith fwyaf buddiol i iechyd yr afonydd. Mae'r papur trafod yn cynnig:

  • Sefydlu amcanion cyffredin y mae’r holl randdeiliaid yn gweithio tuag atynt
  • Bod buddsoddiad yn cael ei arwain gan dystiolaeth ac y cytunir ar frys ar y sail dystiolaeth er mwyn targedu buddsoddiad yn effeithiol
  • Blaenoriaethu afonydd ardaloedd cadwraeth arbennig sy'n methu â chyflawni "Statws Ecolegol Da" o dan y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr
  • Datblygu strwythur "Hawlenni Dalgylch" fel y gellir teilwra dull aml-sector i bob dalgylch er budd mwyaf yr amgylchedd (yn hytrach na'r dull caniatáu ar sail safle presennol)
  • Bod y buddsoddiad presennol yn cael ei gynyddu gan bob sector i ariannu gwelliannau ond ei fod yn parhau i fod yn gymesur a fforddiadwy (gan gynnwys i gwsmeriaid)

Dywedodd Alastair Lyons, Cadeirydd Dŵr Cymru:

"Mae afonydd iach yn hanfodol ar gyfer amgylchedd sy'n ffynnu, i'n heconomïau lleol ac i'n hiechyd cyhoeddus ein hunain - felly mae er budd pawb bod mwy yn cael ei wneud i'w gwella. Mae afonydd yng Nghymru yn gyffredinol mewn cyflwr gwell na'r rhan helaeth o Loegr, a 44% o'n hafonydd ni yn cyflawni statws ecolegol da o'i gymharu â 14% yn Lloegr. Fodd bynnag, nid yw hyn yn agos at fod yn ddigon uchel ac rydym yn cydnabod mae'n rhaid i’r holl gwmnïau, sefydliadau a chymunedau gydweithio i chwarae eu rhan wrth helpu i wella ein hafonydd ymhellach. Rydym eisoes yn buddsoddi £836 miliwn i gynnal a gwella ein rhwydwaith dŵr gwastraff yn ystod y pum mlynedd hyd at 2025, a bydd ein cynnig i ychwanegu £100 miliwn at hwn yn dod â budd sylweddol. Mae ein rhagamcanion hyd at 2025 dan ein model nid er elw yn darparu hyblygrwydd ariannol i ni gwneud y buddsoddiad ychwanegol hwn er lles ein cymunedau."

Ychwanegodd Peter Perry, Prif Weithredwr Dŵr Cymru:

"Er mwyn ysgogi'r gwelliannau i ansawdd dŵr afonydd rydym i gyd am eu gweld, mae angen i ni weithio gyda'n gilydd ar lefel dalgylch i sicrhau bod yr ymyriadau, y buddsoddiadau a’r drefn hawlenni yn cyflwyno'r gwelliannau'n angenrheidiol mewn modd effeithlon a bod cyllid cyfyngedig yn cael yr effaith fwyaf. Dyna pam ein bod yn cynnig trefn newydd "hawlenni dalgylch" lle mai'r ateb cywir ar gyfer y dalgylch fydd y flaenoriaeth yn hytrach nag edrych ar safleoedd yn unigol. Ni all unrhyw un sefydliad, sector na rheoleiddiwr wella'r afonydd yn ddigonol ar eu pennau eu hunain - ond mae'n rhaid i ni gyd chwarae ein rhan yn gweithio gyda’n gilydd."

Gallwch weld ein ddogfen trafod yma.