Lefelau boddhad cwsmeriaid busnes Dŵr Cymru gyda’r gorau yn y diwydiant


19 Ionawr 2023

Mae adroddiad annibynnol wedi datgelu bod busnesau yng Nghymru sy’n gwsmeriaid i Ddŵr Cymru’n fwy bodlon ar eu gwasanaethau dŵr a charthffosiaeth na chwsmeriaid yn Lloegr ar y cyfan.

Yn ôl adroddiad y Cyngor Defnyddwyr Dŵr (CCW), mae cwsmeriaid yng Nghymru – lle’r darparydd nid-er-elw Dŵr Cymru yw’r darparydd mwyaf – yn nodi lefelau uwch o ymddiriedaeth a boddhad gyda’u gwasanaethau dŵr, carthffosiaeth ac adwerthu, yn ogystal â gwerth am arian.

Dŵr Cymru yw’r unig gwmni dŵr nid-er-elw yng Nghymru a Lloegr – sy’n golygu nad oes unrhyw gyfranddeiliaid ganddo, ac mae’n buddsoddi unrhyw arian y mae’n ei wneud mewn gwasanaethau ac er budd ei gwsmeriaid.

Gweledigaeth y cwmni, sydd wedi cynnal ei sgoriau uchel ar draws pob categori, yw ennill ffydd ei gwsmeriaid bob un dydd. CCW yw cynrychiolydd annibynnol cwsmeriaid dŵr domestig a busnes Cymru a Lloegr, a chadarnhaodd ei adroddiad bod:

  • 78% o gwsmeriaid yn dweud eu bod yn cael gwerth am arian am eu gwasanaethau dŵr (o gymharu â 66% yn Lloegr);
  • 42% o gwsmeriaid yn dweud eu bod yn ymddiried yn eu darparydd dŵr (o gymharu â 29% yn Lloegr);
  • 62% o gwsmeriaid yn cytuno bod eu darparydd dŵr yn ofalgar ohonynt (o gymharu â 42% yn Lloegr);
  • 92% o gwsmeriaid yn dweud eu bod yn fodlon ar eu gwasanaethau dŵr (o gymharu ag 87% yn Lloegr);
  • 88% o gwsmeriaid yn dweud eu bod yn fodlon ar eu gwasanaethau carthffosiaeth (o gymharu ag 81% yn Lloegr); a bod
  • 85% o gwsmeriaid yn dweud eu bod yn fodlon ar eu gwasanaethau adwerthu (o gymharu â 66% yn Lloegr).

Dywedodd Ian Wyatt, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cwsmeriaid Busnes Dŵr Cymru: "Fel yr unig gwmni nid-er-elw yng Nghymru a Lloegr, mae darparu gwasanaethau cwsmeriaid gwych ar gyfer ein cwsmeriaid busnes wrth galon popeth a wnawn, a dyna yw ein blaenoriaeth bennaf.

"Rydyn ni’n falch o’n hanes cadarn o fodloni disgwyliadau cynyddol ein cwsmeriaid busnes, ac mae hi’n braf gweld hynny’n cael ei gydnabod eto yn y gwaith ymchwil annibynnol yma. Rydyn ni wedi ymrwymo i adeiladu ar hyn eto fyth trwy ffrwyno technoleg i gyfoethogi’r gwasanaeth a gynigiwn i fusnesau, a hynny wrth gynnal ein gwerth am arian mewn argyfwng costau byw."

Mae linc i adroddiad cyflawn CCW yma.