Gwirfoddolwyr Amgueddfa’r Gweithfeydd Dŵr yn ennill Gwobr y Frenhines am Wasanaeth Gwirfoddol (QAVS)


17 Hydref 2022

Mae Gwirfoddolwyr o Amgueddfa Gweithfeydd Dŵr Dŵr Cymru yn Henffordd wedi ennill Gwobr y Frenhines am Wasanaethau Gwirfoddol (QAVS), a chyflwynwyd y Wobr Grisial a’r Dystysgrif iddynt mewn Seremoni yn yr Amgueddfa dydd Mawrth, 4 Hydref 2022.

Dyfarnwyd y wobr, a gyflwynwyd i’r grŵp o wirfoddolwyr gan Arglwydd Raglaw Sir Henffordd, Mr Edward Harley OBE, am ymroddiad yr holl wirfoddolwyr sydd wedi cyfrannu at wasanaethau’r Amgueddfa dros y 46 mlynedd diwethaf.

Dywedodd Mr Edward Harley OBE, ‘Mae Amgueddfa’r Gweithfeydd Dŵr yn atyniad bendigedig yn Henffordd, sy’n rhoi pleser mawr i amrywiaeth eang o ymwelwyd. Mae’r amgueddfa’n cynnal ac yn adfer elfennau pwysig o’n treftadaeth leol a chenedlaethol. Hoffwn longyfarch pawb sydd ynghlwm wrth wirfoddoli dros y sefydliad arbennig yma o waelod calon. Mae’r wobr yn haeddiannol iawn wrth gydnabod yr egni a’r amser aruthrol y mae’r holl wirfoddolwyr yn ei roi i’r amgueddfa ragorol yma.’

Agorodd Amgueddfa’r Gweithfeydd Dŵr, sydd ymhlith atyniadau ymwelwyr mwyaf blaenllaw Sir Henffordd, nôl ym 1974, a gwirfoddolwyr sydd wedi bod yn rhedeg y lle ers y cychwyn. Mae’r gwirfoddolwyr yn amrywio o beirianwyr sy’n cynnal y casgliad o beiriannau, i stiwardiaid, tywyswyr, gweinyddwyr a gwirfoddolwyr yn y caffi, sydd oll yn sicrhau bod yna groeso cynnes a rhywbeth i’w gynnig i ymwelwyr o bob oedran.

Dywedodd Jill Phillips, Cadeirydd Ymddiriedolwyr yr Amgueddfa, “Mae derbyn Gwobr y Frenhines am Wasanaeth Gwirfoddol yn ddigon o ryfeddod. Mae gweledigaeth, egni a phenderfyniad y sylfaenwyr wedi parhau ar hyd y blynyddoedd, a chryfder mawr yr amgueddfa yw angerdd a galluoedd pawb sydd wedi bod ynghlwm â hi. Hoffwn ddiolch yn arbennig i Richard Curtis a Dr Noel Meeke MBE, y bu’r ddau yn gyn Gadeiryddion ac yn wirfoddolwyr yma.’

Mae’r Amgueddfa’n eiddo i Ddŵr Cymru, sydd, mewn partneriaeth â’r gwirfoddolwyr, yn darparu rhaglen addysg ar gyfer ysgolion cynradd sy’n caniatáu i’r disgyblion dreulio diwrnod cyfan yn yr amgueddfa’n dysgu am ddŵr a’r rôl hanfodol y mae’n ei chwarae yn ein bywydau. Mae’r disgyblion yn cymryd rhan mewn arbrofion hidlo dŵr, a sialensiau cyflenwi a chynaliadwyedd dŵr. Ond nid y genhedlaeth ifanc yn unig sy’n cael eu hannog i ddysgu, mae Parc Dŵr Treftadaeth rhyngweithiol ac unigryw Noel Meeke yn caniatáu i’r holl ymwelwyr roi cynnig arni, gyda dyfeisiau dŵr hanesyddol sydd wedi cael eu defnyddio ar hyd y cenedlaethau, i ddeall sut roedd dŵr yn cael ei godi yn y dyddiau a fu.

Dywedodd Alun Shurmer, Cyfarwyddwr Strategaeth a Chysylltu Cwsmeriaid Dŵr Cymru: “Mae Amgueddfa’r Gweithfeydd Dŵr yn rhan bwysig o’n treftadaeth ac yn amgylchedd dysgu hanfodol bwysig i bawb yn ein cymunedau. Ers y cychwyn cyntaf, y gwirfoddolwyr yw’r enaid sydd wedi cadw’r Amgueddfa i fynd, a nhw sydd wedi gwneud yr Amgueddfa’n gymaint o lwyddiant. Rwy’n falch fod yr holl wirfoddolwyr presennol a rhai’r gorffennol wedi cael eu hanrhydeddu â’r wobr yma, a hoffwn estyn fy niolch i bob un ohonynt am eu hymroddiad anhygoel.”

Mae’r amgueddfa’n cynnig cyfle i ymwelwyr weld amrywiaeth eang o bympiau a pheiriannau o bob rhan o Sir Henffordd, y siroedd cyfagos a Chymru ar waith, ac maent ymhlith yr esiamplau gweithredol olaf o’u math sydd ar ôl. Mae’r casgliad gyda’r gorau yn y DU.

Mae yna nifer o wahanol gyfleoedd gwirfoddoli i bobl gymryd rhan ynddynt, ac mae croeso bob amser i wirfoddolwyr newydd. I gael rhagor o fanylion am wirfoddoli yn Amgueddfa’r Gweithfeydd Dŵr yn Henffordd, cysylltwch â volunteering@waterworksmuseum.org.uk