Daw Gwaharddiad Defnydd Dros Dro (gwaharddiad pibau dyfrhau) i rym i amddiffyn cyflenwadau dŵr ac amgylchedd Sir Benfro


19 Awst 2022

Bydd gwaharddiad defnydd dros dro – neu waharddiad pibau dyfrhau yn fwy cyffredin – yn do di rym heddiw i dros 60,000 o aelwydydd a wasanaethir gan gronfa ddŵr Llys y Fran yn Sir Benfro. Yn dilyn y flwyddyn sychaf ers 1976, y tymereddau uchaf erioed a’r lefelau uchaf erioed o alw am ddŵr, mae adnoddau dŵr yn Sir Benfro wedi cyrraedd lefelau sychder.

Er nad yw hyn yn peri risg uniongyrchol i gyflenwadau dŵr yr ardal, mae Dŵr Cymru’n cymryd y cam angenrheidiol hwn i sicrhau bod digon o ddŵr yn parhau i fod ar gael i gyflenwi cwsmeriaid dros y misoedd nesaf.

O 08.00am heddiw (19 Awst) bydd Gwaharddiad Defnydd Dros Dro yn dod i rym i gwsmeriaid yn Sir Benfro a rhan fach gyfagos o Sir Gaerfyrddin. Mae cwsmeriaid yn yr ardal dan sylw wedi cael llythyron eisoes yn dweud na fyddan nhw’n cael defnyddio piben ddyfrhau i gyflawni gweithgareddau yn eu heiddo ac o’i amgylch fel dyfrio planhigion neu lenwi pyllau padlo neu dwbâu twym.

60% yn unig o’r glawiad disgwyliedig y mae Sir Benfro wedi’i gael rhwng mis Mawrth a Gorffennaf ac ers i ni fod yn ymwybodol o’r glawiad is nag arfer, mae’r cwmni wedi cynnal nifer o weithgareddau i helpu gyda chadwraeth dŵr yn yr ardal. Mae hyn wedi cynnwys canfod a thrwsio mwy o ollyngiadau a defnyddio tanceri dŵr i ymateb i gyfnodau brig yn y galw mewn rhai rhannau o’r Sir i helpu i gynnal cyflenwadau.

Nid yw’r sefyllfa yn Sir Benfro yn unigryw yn y DU, ac mae cwmnïau dŵr eraill ledled Lloegr eisoes wedi cyflwyno gwaharddiadau pibau dŵr ar draws eu hardaloedd gweithredu. O ran Dŵr Cymru, dim 4% o’i gwsmeriaid y mae’r gwaharddiad yn effeithio arnyn nhw ac mae’r holl gwsmeriaid yn yr ardal dan sylw wedi cael gwybod yn ysgrifenedig. Os hoffai unrhyw un weld a ydyn nhw yn yr ardal dan sylw, gallan nhw ddefnyddio gwiriwr cod post defnyddiol sydd ar gael ar wefan Dŵr Cymru – dwrcymru.com/sychdwr

Dywedodd Ian Christie, Rheolwr Gyfarwyddwr Gwasanaethau Dŵr yn Dŵr Cymru: : "Fel cwmni cyfrifol, mae gennym gynlluniau manwl ar waith i sicrhau ein bod yn parhau i gyflenwi cwsmeriaid yn arbennig pan fydd sychder yn effeithio ar ardal, sy’n cynnwys cyflwyno gwaharddiadau defnydd dros dro. Nid yw’n benderfyniad yr ydym yn ei wneud yn ddi-hid gan ein bod yn gwybod yr anghyfleustra y gall ei achosi, ond os nad ydym yn gweithredu nawr, byddai risg wirioneddol o gyfyngiadau pellach yn ddiweddarach ac rydym wir yn ceisio osgoi hyn i’n cwsmeriaid. Heb unrhyw law sylweddol yn y rhagolygon, mae’n bwysig ein bod yn gweithio gyda’n gilydd i sicrhau bod dŵr yn parhau i lifo.

"Rydym yn gwneud ein rhan ni hefyd, ac wedi cynyddu nifer y bobl yn yr ardal sy’n canfod ac yn trwsio gollyngiadau. Mae hyn wedi bod yn gynnydd o 70% yn ein gweithlu yn yr ardal sydd yn ei dro yn golygu ein bod yn canfod ac yn trwsio 40% yn fwy o ollyngiadau o’i gymharu â 2021 bellach. Fodd bynnag, rydym yn gwerthfawrogi rhwystredigaeth cwsmeriaid pan nad yw gollyngiad yn cael ei drwsio cyn gynted ag y byddan nhw’n ei adrodd i ni. Er bod y mwyafrif o ollyngiadau yn cael eu trwsio ar unwaith, mae rhai sy’n fwy cymhleth ac yn galw am reolaeth traffig er mwyn gallu gwneud y gwaith yn ddiogel. Gall y rhain gymryd mwy o amser, fodd bynnag gallwn sicrhau ein cwsmeriaid ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i drwsio pob un mor gyflym â phosibl.”

Ychwanegodd Mr Christie: “Rydym yn gwerthfawrogi’n wirioneddol y camau y mae pob wedi’u cymryd eisoes i gyfyngu ar faint o ddŵr maen nhw’n ei ddefnyddio ond byddem yn annog pawb bellach yn yr ardal dan sylw i barchu’r gwaharddiad a pheidio â defnyddio piben ddyfrhau. Mae eithriadau, yn enwedig i ddeiliaid Bathodyn Glas neu’r rhai ar ein Cofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth. Mae rhestr lawn o’r bobl o’r hyn nad yw pobl yn cael ei wneud a’r eithriadau ar gael ar ein gwefan - www.dwrcymru.com/sychdwr.