Lansio rhaglen hunan-ardystio newydd yn fforwm datblygwyr Dŵr Cymru


2 Rhagfyr 2022

Mae Dŵr Cymru, yr unig gwmni cyfleustod nid er elw yng Nghymru a Lloegr, wedi lansio rhaglen hunan-ardystio newydd, sy’n golygu y gall contractwyr hunan-ardystio eu cysylltiadau dŵr newydd yn hytrach na gorfod trefnu archwiliad gan Ddŵr Cymru.

Felly bydd cymhwyster newydd Plymwyr Cymeradwy'r Diwydiant Dŵr (WIAPS) yn dileu’r angen i Ddŵr Cymru fynd allan i archwilio’r ffos, gan gyflymu’r broses o drefnu cysylltiad dŵr newydd, a gwella iechyd a diogelwch ar y safle am na fydd angen gadael y ffosydd yn agored yn barod i’w harchwilio.

Lansiwyd y fenter yn Fforwm Datblygwyr y cwmni, sy’n elfen allweddol o raglen waith Dŵr Cymru wrth ymgysylltu â datblygwyr tai ac eiddo. Daeth tua 70 o ddatblygwyr eiddo a thai cymdeithasol i fforymau datblygwyr Dŵr Cymru yng Nghaer a Chaerdydd, oedd yn cynnwys diweddariadau ar y pynciau allweddol sy’n flaenoriaeth i’r cwsmeriaid.

Pwnc allweddol arall a drafodwyd oedd esbonio sut y mae Dŵr Cymru’n gweithio’n galed gyda rhanddeiliaid eraill i ganfod a oes yna unrhyw ffordd iddo helpu i ddatgloi’r gafael ar ddatblygiadau newydd mewn ardaloedd lle mae afonydd mewn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig. Mae’r cwmni’n ceisio dod o hyd i atebion cynaliadwy yn y tymor byr a hir er mwyn atal datblygiadau newydd arfaethedig rhag cynyddu lefelau’r ffosffadau yn yr afonydd hynny. Edrychodd y fforwm hefyd ar newidiadau yn y taliadau a godir ar gwsmeriaid datblygu o Ebrill 2023 ymlaen, a sut i reoli draenio cynaliadwy ar safleoedd datblygu.

Bu’r adborth ar y fforwm yn gadarnhaol, gyda 100% o’r rhai a ddaeth yn dweud ei fod yn ‘dda’ neu’n ‘rhagorol’.

Dywedodd Ian Wyatt, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cwsmeriaid Busnes Dŵr Cymru: "Rydyn ni’n falch o’n hanes cadarn wrth ymgysylltu â’n cwsmeriaid datblygu. Roedd hi’n hyfryd cael lansio ein menter hunan-ardystio a ddylai gyflymu’r broses o drefnu cysylltiad newydd eto fyth i’r datblygwyr. Hoffem ddiolch i bawb a ddaeth am wneud y fforwm yn gymaint o lwyddiant."