Penodi Lila Thompson yn Gyfarwyddwr Anweithredol Glas Cymru


7 Medi 2022

Heddiw mae Glas Cymru, y cwmni nid-er-elw sy’n berchen ar Ddŵr Cymru, wedi cyhoeddi bod Lila Thompson wedi ymuno â’r Bwrdd fel Cyfarwyddwr Anweithredol. Daeth ei phenodiad i rym ar 6 Medi 2022.

Mae gan Ms Thompson dros 20 mlynedd o brofiad rhyngwladol yn y diwydiannau seilwaith, gofal iechyd a dŵr. Hi yw Prif Weithredwr Dŵr Prydain, sy’n cynrychioli buddiannau cwmnïau yng nghadwyn gyflenwi dŵr a dŵr gwastraff y DU trwy dri fforwm, gan eu cysylltu â phobl gyswllt er mwyn codi eu proffil, tyfu eu busnes a hybu arferion gorau. Mae ei bedwerydd fforwm, Fforwm y Diwydiant Dŵr, yn darparu arweiniad agweddau annibynnol sy’n seiliedig ar her â’r nod o daclo’r sialensiau sy’n wynebu’r sector.

Mae Ms Thompson yn chwarae rhan weithredol hefyd wrth ddatblygu arloesedd yn y sector dŵr fel aelod o Fwrdd Trawsnewid Spring, canolfan rhagoriaeth y sector dŵr o ran arloesi, a bu gynt yn feirniad i Gronfa Arloesi Ofwat. Mae hi’n Ymddiriedolwr ar Fwrdd y Sefydliad Siartredig Dŵr a Rheolaeth Amgylcheddol (CIWEM) a Hosbis Sant Christopher hefyd.

Dywedodd Alistair Lyons, Cadeirydd Glas Cymru: "Rydw i wrth fy modd fod Lila’n ymuno â Bwrdd Glas Cymru. Bydd ei gwybodaeth fanwl am ein sector a’r cyfraniad y gall arloesi ei wneud wrth fynd i’r afael â’r sialensiau sy’n ein hwynebu ar hyn o bryd yn gwneud cyfraniad pwysig at benderfyniadau ein Bwrdd".

Dywedodd Lila Thompson: "Mae’n bleser mawr gen i allu ymuno â Bwrdd Glas Cymru, ac rwy’n gobeithio y bydd fy mhrofiad yn cynorthwyo’r cwmni i chwarae rôl allweddol wrth gynnal a gwella ei wasanaethau hanfodol ar gyfer cwsmeriaid. Rwy’n edrych ymlaen at gael cynorthwyo’r cwmni i gyflawni ei strategaeth 2050 ac adeiladu ar ei hanes o arloesi er budd ei gwsmeriaid."