Cydweithwyr Dŵr Cymru'n helpu i dwtio cymunedau yn rhan o Wythnos Gwanwyn Glân Cymru


6 Ebrill 2022

Mae gwanwyn yn yr awyr, ac mae cydweithwyr o Ddŵr Cymru wedi bod yn torchi llewys ac yn cymryd rhan mewn gwaith i helpu i dwtio cymunedau lleol yn rhan o Wythnos Gwanwyn Glân Cymru.

Bu cydweithwyr o'r cwmni nid-er-elw allan â theclynnau codi sbwriel yn hytrach na'u hoffer arferol er mwyn cyflawni gwaith glanhau gwirfoddol mewn cymunedau lleol ar draws ein hardal weithredu.

Un ardal i elwa ar hyn oedd ardal Troed-Y-Rhiw ym Merthyr Tudful, lle mae Dŵr Cymru'n buddsoddi £10m i uwchraddio'r rhwydwaith dŵr yfed a lleihau gollyngiadau. Ynghyd â'u contractwyr partner ar y prosiect, Lewis Civil Engineering, bu’r tîm wrthi’n clirio unrhyw sbwriel er mwyn gadael yr ardal yn dwt ac yn daclus ar gyfer y gymuned leol.

Dywedodd Claire Roberts, Pennaeth Cysylltu Cymunedau Dŵr Cymru: "Rydyn ni'n buddsoddi £10m er mwyn sicrhau y gallwn barhau i ddarparu gwasanaeth dŵr o'r safon uchaf ar gyfer ein cwsmeriaid a’n cymunedau lleol. Rydyn ni am sicrhau ein bod ni'n cael effaith gadarnhaol yn y cymunedau lle'r ydyn ni'n gweithio bob tro, ac rydyn ni'n credu bod Wythnos Gwanwyn Glân Cymru'n gyfle delfrydol i ni weithio fel tîm er mwyn gwneud gwahaniaeth. Cafodd y timau bleser mawr o gymryd rhan, a chasglwyd llwyth o sbwriel a gafodd ei ailgylchu a'i waredu'n ddiogel wedyn.”

Dywedodd Alex Morgan, Rheolwr Safle Lewis CE: "Rydyn ni wastad yn awyddus i roi rhywbeth nôl i'r cymunedau rydym yn buddsoddi ynddynt. Mae aelodau'r tîm yn hapus i helpu, ac maent am sicrhau bod eu hardaloedd gwaith yn edrych yn daclus bob amser. Mae Gwanwyn Glân Cymru wedi bod yn achlysur gwych i gymryd rhan ynddo er mwyn dangos ein bod ni wastad yma i gynnig help llaw."

I gael rhagor o wybodaeth am y gwaith buddsoddi sy'n cael ei wneud yn eich ardal chi, ewch i Yn Eich Ardal.