£3.5 miliwn o hwb i amgylchedd dyfrol Weble yn dod at ei ddiwedd


11 Hydref 2022

Disgwylir i gynllun buddsoddi £3.5 miliwn y mae Dŵr Cymru’n ei gyflawni ar hyn o bryd roi hwb i’r amgylchedd dyfrol yn Weble a’r cyffiniau.

Nôl ym mis Mai eleni, dechreuodd y cwmni cyfleustod nid-er-elw waith ar brosiect i uwchraddio’r gweithfeydd trin dŵr gwastraff y mae’n berchen arnynt ac yn eu gweithredu yn yr ardal.

Mae’r gweithfeydd trin eisoes yn trin y dŵr gwastraff o’r ardal gyfagos i safon uchel, ond bydd y gwaith uwchraddio sydd ar y gweill yn gweld y broses drin yn cael ei chyfoethogi eto fyth.

Y prif welliant fydd cyflwyno proses a fydd yn tynnu’r ffosffadau o’r dŵr gwastraff wedi ei drin trwy ddefnyddio dulliau arloesol. Gall ffosffadau achosi gordyfiant o algâu, felly bydd eu dileu o’r dŵr gwastraff wedi ei drin yn helpu i leihau’r lefelau yn nant Newbridge sydd gerllaw, a bydd hyn, yn ei dro, yn fanteisiol i ansawdd dŵr yr afon a’r bywyd dyfrol.

Mae’r gwaith uwchraddio’n cael ei gyflawni o fewn ffiniau’r gweithfeydd trin ger Ffordd Kington yn Weble. Nod y cwmni yw ei gwblhau yn gynnar yn y flwyddyn nesaf.

Dywedodd Uwch Reolwr Prosiect Dŵr Cymru, Andrew Davies: "Fel cwmni, rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau ein bod ni’n amddiffyn yr amgylchedd sydd yn ên gofal, ac mae hynny’n cynnwys y cyrsiau dŵr rydym yn rhyngweithio â nhw. Mae yna nifer o ffactorau sy’n cyfrannu at lefelau ffosffadau mewn cyrsiau dŵr, ac rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau ein bod ni’n gwneud popeth y gallwn ni i gadw ein cyfraniad mor isel â phosibl. Mae ein buddsoddiad sylweddol yma yn Weble yn adlewyrchu hyn.

"Rydyn ni am wneud yn siŵr bod ein cwsmeriaid yn gwybod beth r’yn ni’n ei wneud bob tro wrth i ni weithio yn eu cymuned, felly rydyn ni wedi ysgrifennu at drigolion i roi gwybod iddynt am y gwaith, ac wedi diweddaru ein gwefan gyda’r wybodaeth ddiweddaraf.

"Rydyn ni’n gwerthfawrogi bod gwaith fel hyn yn gallu bod yn anghyfleus, ond fe wnawn ni bopeth y gallwn ni i darfu cyn lleied â phosibl ar y gymuned, a hoffem ddiolch i bobl am eu hamynedd yn ystod y gwaith hanfodol yma."