Gwaith i amddiffyn cartrefi rhag llifogydd ym Mharc Caia, Wrecsam wedi’i gwblhau


26 Ebrill 2021

Mae gwaith ar brosiect mawr gwerth £2.3 miliwn i fynd i’r afael â llifogydd ym Mharc Caia, Wrecsam wedi’i gwblhau. Bydd gwaith y cwmni nid-er-elw, Dŵr Cymru, yn amddiffyn cartrefi yn ardal Wynnstay Avenue a’r amgylchedd yn yr ardal trwy sicrhau bod llai o lifogydd o’r rhwydwaith dŵr gwastraff pan fydd yn bwrw’n drwm.

Roedd y gwaith, a ddechreuwyd ym mis Gorffennaf y llynedd, yn cynnwys gosod tanc storio tanddaear mawr yn y llain las rhwng Wynnstay Avenue a Deva Way. Gosodwyd pibellau newydd i gysylltu’r tanc â’r rhwydwaith ac felly, pan fydd y system dŵr gwastraff yn llawn dop yn ystod glaw trwm, bydd y tanc storio’n cadw’r dŵr storm tan i’r glaw arafu. Yna, bydd yn ei ryddhau yn araf i’r rhwydwaith dŵr gwastraff fel na fydd mor debygol o orlifo.

Bu’n rhaid symud pyst gôl cymunedol er mwyn gwneud y gwaith. Fel ffordd o ddiolch i bobl yr ardal am fod yn amyneddgar yn ystod y gwaith, mae Dŵr Cymru wedi gosod pyst gôl newydd i’r gymuned gyfan eu mwynhau yn lle’r hen rai oedd wedi gweld dyddiau gwell.

Dywedodd Rheolwr Prosiectau Dŵr Cymru, Sean O’Rourke: “Mae ein buddsoddiad mawr gwerth £2.3 miliwn yn Wynnstay Avenue, Wrecsam yn arwydd o’n hymrwymiad i sicrhau bod ein holl gwsmeriaid yn cael system garthffosiaeth y gallan nhw ymddiried ynddi ac i warchod yr amgylchedd. Roedd hwn yn gynllun mawr i ni, yn cynnwys adeiladu tanc tanddaear newydd i storio dŵr a gosod pibellau newydd. Deallwn fod ein gwaith yma wedi tarfu rywfaint ar bobl ac felly hoffem ddiolch i’r trigolion am fod yn amyneddgar ac am gydweithredu â ni tra oeddem yn gwneud y gwaith hanfodol hwn.”

Pan fydd yn gweithio mewn cymunedau ar brosiectau mawr fel un Parc Caia, mae Dŵr Cymru’n ceisio talu yn ôl i’r cymunedau trwy gynnal cynlluniau neu trwy gefnodi grwpiau cymunedol. Mae gan Dŵr Cymru gronfa gymunedol hefyd. Os hoffech wybod mwy amdani a chael gwybod sut i ymgeisio, ewch i Cronfa Gymunedol 

Mae Dŵr Cymru wedi cyfrannu £250 i ddau gynllun cymunedol ym Mharc Caia er mwyn diolch i’r bobl: Y Fenter sy’n darparu gweithgareddau chwarae am ddim, a Chanolfan Ddydd Deva House sy’n rhoi cyfleoedd i oedolion gymdeithasu.

Dywedodd Linda "Bronson" Platt, Rheolwr Maes Chwarae y Fenter: “Rydyn ni’n falch o glywed bod y gwaith buddsoddi i amddiffyn yr ardal rhag llifogydd wedi’i gwblhau. Bu’r tîm yn glên ac yn gwrtais trwy gydol y gwaith. Diolch yn fawr hefyd am roi’r paledau i ni. Cafodd y plant gyfle i wylio’r gwaith a wnaed i uwchgylchu’r paledau a gobeithio bod hyn wedi ysbrydoli llawer ohonynt i weithio ym myd adeiladu yn y dyfodol.”

Mae’r cynllun yn dilyn buddsoddiad o £700,000 yn y rhwydwaith dŵr gwastraff yng Ngwersyllt i fynd i’r afael â phroblemau tebyg.

Gan ei fod yn ‘gwmni nid-er-elw’, nid oes cyfranddalwyr gan Dŵr Cymru ac mae unrhyw elw’n cael ei ailfuddsoddi yn y busnes er budd y cwsmeriaid.