Dŵr Cymru'n treialu generadur hybrid yn Rhymni


3 Rhagfyr 2021

Mae Dŵr Cymru Welsh Water yn buddsoddi £10 miliwn yng Nghwm Rhymni er mwyn uwchraddio'r rhwydwaith dŵr.

Yn ogystal â'r gwaith yma, mae'r cwmni'n treialu generadur hybrid ar un o'i safleoedd gwaith yno â'r nod o greu safle sy’n hollol rydd o allyriannau.

Mae'r generadur hybrid - sy'n defnyddio Olew Llysiau wedi ei Hydrodrin (HVO) a batris - yn cael ei ddefnyddio i bweru'r swyddfeydd, yr ystafelloedd sychu a'r toiledau ar un o safleoedd gwaith mwyaf y prosiect. Mae defnyddio batri hollol fodern ochr yn ochr â generadur i bweru'r safle wedi caniatáu i'r cwmni gwtogi 55% ar faint y generadur a'i amser rhedeg.

Mae hynny'n golygu bod y safle'n rhedeg ar bŵer batri yn unig am 12 awr a hanner y dydd ar gyfartaledd, gan greu safle tawel heb unrhyw allyriannau.

Dywedodd Alexander Herridge, Rheolwr Carbon Dŵr Cymru: "Gyda phob newid bach, gallwn gael effaith gadarnhaol ar ein hamgylchedd. Mae'r generadur hybrid yn Rhymni wedi helpu i arbed dros 7,500 litr o danwydd dros gyfnod o ddau fis, gan sicrhau gostyngiad o 19 tunnell yn yr allyriannau carbon a fyddai wedi cael eu cynhyrchu o'r safle fel rheol. Byddwn ni'n parhau i gydweithio'n agos â'n contractwyr partner i leihau'r allyriannau a gynhyrchir, a fydd yn helpu i reoli effeithiau'r newid yn yr hinsawdd a lleihau ein hôl troed carbon."

Mae Dŵr Cymru, sy'n gwasanaethu dros dair miliwn o bobl ar draws y rhan fwyf o Gymru a rhai rhannau cyfagos o Loegr, yn dibynnu'n drwm ar ynni i ddarparu ei wasanaethau hanfodol.

Ar hyn o bryd mae'n cynhyrchu 23% o'i anghenion ynni ei hun trwy ynni'r gwynt, hydro, solar a threulio anaerobig uwch (AAD). Mae datblygiadau fel y generadur hybrid yn rhan o ymrwymiad y cwmni nid-er-elw i gyflawni allyriannau carbon net o sero erbyn 2040, ac i sicrhau gostyngiad o 90% yng nghyfanswm ei allyriannau carbon erbyn 2030.

Er mwyn trawsnewid gwasanaethau dŵr a dŵr gwastraff, mae'r cwmni wedi neilltuo cyllideb uwch nag erioed o dros £80 miliwn i gyflawni gwaith ymchwil ac arloesi dros y pum mlynedd nesaf.