Dŵr Cymru i gyflawni allyriannau carbon net sero erbyn 2040


4 Mehefin 2021

Ynghyd â'i ganlyniadau blynyddol ar gyfer 2020-21, mae Dŵr Cymru Welsh Water, y cwmni cyfleustod nid-er-elw cyntaf yng Nghymru a Lloegr – a'r unig un hyd yn hyn, wedi cyhoeddi ei fwriad i gyflawni allyriannau carbon net o sero erbyn 2040.

  • Ar hyn o bryd, mae Dŵr Cymru'n cynhyrchu 23% o'r ynni sydd ei angen arno ei hun
  • Y cwmni yw un o ddefnyddwyr ynni mwyaf Cymru
  • Mae yna gynlluniau i fod 100% yn hunangynhaliol o ran ynni erbyn 2050
  • Mae’r cwmni wedi cwtogi 80% ar yr allyriannau carbon (yn y farchnad) sy'n deillio o'i weithrediadau ers 2010, sydd wedi at arwain at gyfanswm gostyngiad o 65% ers 2010

Fel un o ddefnyddwyr ynni mwyaf Cymru, â bil ynni blynyddol o £46 miliwn, bydd yr ymrwymiad yma'n chwarae rhan allweddol yn y frwydr yn erbyn argyfwng y newid yn yr hinsawdd sydd wedi cael ei ddatgan gan Lywodraeth Cymru, a'i nod i wireddu allyriannau carbon net o sero erbyn 2050.

Mae Dŵr Cymru, sy'n gwasanaethu dros dair miliwn o bobl ar draws y rhan fwyf o Gymru a rhai rannau cyfagos o Loegr, yn dibynnu'n drwm ar ynni i ddarparu ei wasanaethau hanfodol. Ar hyn o bryd mae'n cynhyrchu 23% o'r ynni sydd ei angen arno ei hun ar ffurf ynni'r gwynt, hydro, solar a threulio anaerobig uwch (AAD), gyda'r gweddill yn dod o adnoddau ynni sydd 100% yn adnewyddadwy. Mae'r cwmni'n bwriadu cynhyrchu 35% o’i ynni ei hun erbyn 2025, ac yn mynd i fuddsoddi £21 miliwn pellach i gyflawni hyn dros y pedair blynedd nesaf, gan ddod 100% yn hunan-gynhaliol o ran ynni - neu'n ynni niwtral - erbyn 2050.

Yn ogystal ag ymrwymo i fod yn garbon-niwtral erbyn 2040, nod y cwmni yw cwtogi 90% ar ei gyfanswm ei allyriannau carbon erbyn 2030. Er mwyn trawsnewid gwasanaethau dŵr a dŵr gwastraff, mae'r cwmni wedi neilltuo cyllideb o £68 miliwn – sy’n fwy nag erioed – ar gyfer gwaith ymchwil ac arloesi dros y pum mlynedd nesaf. Rhwng nawr a 2040, mae'n bwriadu arloesi gyda ddulliau o harneisio byd natur trwy ei gynllun bioamrywiaeth, adfer tir mawn, trin gwlyptiroedd a rheoli dalgylchoedd.

Er mwyn sicrhau trosolwg manwl o'r strategaeth rydyn ni wedi ei datblygu i gyflawni'r nodau hyn, a mesur ac adrodd ar ein cynnydd yn ei herbyn, mae'r Bwrdd wedi ffurfio pwyllgor newydd - y Pwyllgor Amgylcheddol, Cymdeithasol a Llywodraethu (ESG) - dan gadeiryddiaeth y Cyfarwyddwr Anweithredol Debra Bowen Rees.

Bydd Dŵr Cymru'n cynyddu ei ddefnydd o ynni adnewyddadwy hefyd er mwyn bod yn fwy hunangynhaliol o ran ynni. Gan adeiladu ar lwyddiant ei barc ynni £36 miliwn yn Wrecsam yn y gogledd, mae'r cwmni wedi buddsoddi £50 miliwn yng Ngweithfeydd Trin Dŵr Gwastraff Rhostir Cog  ym Mro Morgannwg n ddiweddar. Bydd hyn yn cynhyrchu ynni glân a gwyrdd o garthffosiaeth trwy ei gyfleuster Treulio Anaerobig Uwch hollol fodern, gan greu digon o ynni i bweru'r gweithfeydd a fydd yn ei gwneud hi'n safle ynni-niwtral.

Mae'r cynlluniau uchelgeisiol yn cyd-daro â'r cwmni'n dathlu ugain mlynedd ers iddo ddechrau gweithredu dan ei fodel perchnogaeth 'nid-er-rhanddeiliaid' sy'n unigryw yn y sector. Mae'r model yma wedi golygu bod ei gwsmeriaid wedi elwa ar dros £440 miliwn – arian a fyddai wedi mynd i bocedi cyfranddeiliaid mewn cwmnïau eraill – trwy fuddsoddiad ychwanegol yn ei wasanaethau a chynorthwyo mwy na 127,000 o gwsmeriaid i dalu eu biliau dŵr o dan ein cynllun tariffau cymdeithasol. Am ei fod eisoes yn gweithio gyda banciau bwyd ac asiantaethau eraill i hyrwyddo'r cymorth y mae'n ei gynnig i gwsmeriaid bregus, mae Dŵr Cymru'n dathlu'r pen-blwydd diweddaraf yma trwy gyfrannu £1,000 at dros 100 o wahanol fanciau bwyd Ymddiriedolaeth Trussell ar draws Cymru a Sir Henffordd.

Dywedodd Cadeirydd Glas Cymru, Alastair Lyons: “Mae heddiw'n ddiwrnod arwyddocaol i Ddŵr Cymru wrth i ni gyhoeddi ein siwrnai i gyflawni allyriannau carbon net o sero erbyn 2040. Mae hyn yn fwy na tharged o ran allyriannau'r seilwaith neu weithrediadau: yn hytrach, mae'n fater o newid ein ffordd o feddwl, cynllunio a chyflawni pethau. Fel un o brif gwmnïau Cymru, mater o gymryd cyfrifoldeb dros reoli sialens fwyaf ein cyfnod yw hi yn nhermau'r newid yn yr hinsawdd. Byddwn ni’n canolbwyntio ar y tymor hir ac yn sicrhau ein bod ni'n helpu i amddiffyn ein cwsmeriaid, ein cymunedau a'r amgylchedd lleol, ac yn creu dyfodol gwell ar gyfer y cenedlaethau sydd i ddod.”

Dywedodd Prif Weithredwr Dŵr Cymru, Peter Perry: “Mae hi wedi bod yn flwyddyn ddigynsail ac ymestynnol wrth i ni ymateb i COVID-19, ond rydyn ni wedi dangos gwytnwch ac wedi addasu'n ffordd o weithredu a darparu ein gwasanaethau hanfodol.

“Fel cwmni sydd mewn perchnogaeth ar ran ein cwsmeriaid, mae ein gwreiddiau'n gadarn yn y cymunedau a wasanaethwn. Mae ein cwsmeriaid a'n cymunedau yn dal i fod ar eu hennill diolch i'n model gweithredu nid-er-elw, ac rydyn ni'n falch o gyhoeddi ein cynlluniau amgylcheddol uchelgeisiol i sicrhau y gallwn barhau i ddarparu gwasanaeth effeithiol, gwydn a fforddiadwy am ddegawdau i ddod.”

Daw'r cyhoeddiad am wireddu allyriannau carbon net o sero wrth i'r cwmni gyhoeddi ei Ganlyniadau Blynyddol ar gyfer 2020-21, gan ddangos ei fod wedi buddsoddi bron i £1 miliwn y dydd yn ei wasanaethau dŵr a dŵr gwastraff (£353 miliwn yn 2020-21) – gan fuddsoddi £44 miliwn mewn gwelliannau amgylcheddol yn ystod y cyfnod hwn er mwyn helpu i amddiffyn ansawdd afonydd a dyfroedd arfordirol ar draws Cymru.

Cadarnhaodd Dŵr Cymru hefyd ei fod wedi buddsoddi £34 miliwn ychwanegol er mwyn helpu i ddelio â'r pandemig COVID-19 ac amddiffyn iechyd y cyhoedd, a hynny wrth gynorthwyo 5,000 o aelwydydd mewn angen ariannol, a gohirio taliadau tua 45,000 o fusnesau a fu ar gau am gyfnod oherwydd cyfyngiadau cymdeithasol y Llywodraeth.