Staff Dŵr Cymru'n Ymuno mewn Hwyl Rhithiol ar gyfer Plant mewn Angen


26 Tachwedd 2021

Unwaith eto, mae Dŵr Cymru, yr unig gwmni cyfleustod nid-er-elw yng Nghymru a Lloegr, wedi codi i'r her o dynnu gweithwyr ynghyd yn rhithiol i godi arian ar gyfer Plant mewn Angen.

Dewisodd y cwmni gyflawni digwyddiadau ar lein yn unig er mwyn cadw pawb yn ddiogel yn ystod COVID-19. Daeth staff ar draws y cwmni at ei gilydd ar lein gan gymryd rhan mewn pedwar o wahanol ddigwyddiadau i godi arian – gan gynnwys ocsiwn Plant mewn Angen yng ngofal yr ocsiynwr Charlie Ross, a phasiant anifeiliaid anwes y staff.

Llwyddodd cydweithwyr Dŵr Cymru i godi cyfanswm o £1,622, gan ragori ar y targed o £1,000 a bennwyd ar gyfer Plant Mewn Angen, ac i ddathlu’r ymdrech aruthrol yma, cyfrannodd y cwmni gyllid cyfatebol a ddaeth â chyfanswm y swm a godwyd i £3,244.

Mae codi arian yn rhan o ymrwymiad ehangach y cwmni i gynorthwyo elusennau a phrosiectau cymunedol trwy ei gronfa gymunedol. Mae'r cwmni wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â WaterAid ers 2008, ac wedi codi dros £1 miliwn ar gyfer yr elusen yn ystod y cyfnod hwnnw, gan helpu i ddarparu dŵr glân, toiledau a hylendid da. Yn ogystal, trwy ei gronfa gymunedol, mae’r cwmni wedi dyfarnu dros £34,450 i brosiectau er budd cymunedau lleol o fewn ardaloedd gweithredu Dŵr Cymru yng Nghymru a rhannau o Sir Henffordd.

Dywedodd Alun Shurmer, Cyfarwyddwr Strategaeth a Chysylltiadau Cwsmeriaid Dŵr Cymru:

"Mae hi wedi bod yn flwyddyn heriol wrth i ni ymateb i COVID-19, ond mae Plant mewn Angen wedi bod yn gyfle da i dynnu pawb ynghyd trwy'r digwyddiadau rhithiol yma, a chael tipyn o hwyl wrth godi arian. Mae hi'n wych ein bod ni wedi codi swm mor sylweddol trwy'r achlysuron rhithiol yma, ac y bydd yr arian yn mynd at achos mor fendigedig."

'Cwmni nid-er-elw' yw Dŵr Cymru sydd wedi bod ym mherchnogaeth Glas Cymru ers 2001. Nid oes unrhyw gyfranddeiliaid gan Ddŵr Cymru, ac mae'r holl elw ariannol yn cael ei ail-fuddsoddi yn y busnes er budd y cwsmeriaid.