Dŵr Cymru'n gofyn am safbwyntiau ar opsiynau ar gyfer Ceunant y Diafol


4 Chwefror 2021

  • Mae'r ceunant wedi bod ar gau ers i greigiau syrthio yn 2018
  • Bydd pob ateb peirianegol yn costio mwy nag £1m – mwy nag sydd gan Ddŵr Cymru i'w wario ar y Ceunant ar hyn o bryd
  • Mae Dŵr Cymru am glywed safbwyntiau ar atebion amgen posibl

Mae Dŵr Cymru, sy'n rheoli Ystâd Cwm Elan, am gasglu safbwyntiau ar ddewisiadau posibl i fynd i'r afael â'r cwymp creigiau sydd wedi cau llwybr Ceunant y Diafol o fewn yr ystâd.

Mae'r llwybr wedi bod ar gau ers dwy flynedd, ers i gwymp y creigiau ei flocio, ac mae'r cwymp wedi datgelu ansefydlogrwydd gweddill y graig ar y naill ochr a'r llall i'r Ceunant hefyd.  Ers y cwymp gwreiddiol ar 4 Tachwedd 2018, mae pedwar cwymp pellach wedi bod. Mae rhagor yn debygol ac mae hynny’n golygu bod yna risg ddifrifol i ddiogelwch y cyhoedd.

O ganlyniad, mae'r rhan o'r llwybr sy'n pasio trwy'r Ceunant wedi bod ar gau wrth i'r cwmni archwilio opsiynau posibl i ddatrys y broblem.  Oherwydd cyflwr hynod ansefydlog y graig, rydyn ni wedi gofyn am gyngor peirianwyr arbenigol i asesu ei chyflwr a darparu cyngor proffesiynol ar atebion posibl.

Bydd Dŵr Cymru'n cyflwyno'r opsiynau sydd dan ystyriaeth mewn sesiynau rhannu gwybodaeth ac ymgysylltu rhithwir ym mis Chwefror.  Er ei fod yn croesawu safbwyntiau'r gymuned leol ar yr opsiynau a gynigir, am fod pob opsiwn yn costio dros £1 miliwn mae'r cwmni nid-er-elw yn pwysleisio bod cost yr holl opsiynau’n drech nag unrhyw gyllid sydd ar gael i'w wario ar y Ceunant ar hyn o bryd.  Fodd bynnag, mae'r cwmni'n awyddus i weld a oes unrhyw ffynonellau cyllid allanol ar gael, ac mae wrthi'n archwilio opsiynau yn hynny o beth.

Dyma'r atebion tymor hir a gynigir ar gyfer y Ceunant:

  • Pinio'r graig, a gosod rhwydi dros wyneb y graig y naill ochr a'r llall i'r Ceunant
  • Adeiladu twnnel trwy'r Ceunant gan ddefnyddio trawstiau dur a choncrit
  • Torri wyneb y graig yn ôl y tu hwnt i'w lefel gyfredol
  • Creu llwybr gwyriad i osgoi'r Ceunant trwy Ros yr Hafod ac Allt Goch
  • Creu llwybr gwyriad i osgoi'r Ceunant o gwmpas cronfa ddŵr gyfagos Pen y Garreg

Dywedodd Alun Shurmer, Cyfarwyddwr Strategaeth ac Ymgysylltu Cwsmeriaid Dŵr Cymru: "Rydyn ni'n gwerthfawrogi'r anghyfleustra y mae cau'r Ceunant wedi ei achosi i ddefnyddwyr rheolaidd y llwybr poblogaidd yma, ond yn briodol ddigon, amddiffyn bywydau ac iechyd a diogelwch y gymuned leol a'n hymwelwyr yw ein blaenoriaeth bennaf. Er ein bod wedi ymrwymo i annog y gymuned ac ymwelwyr i ddod i fwynhau'r amwynderau awyr agored bendigedig sydd gennym yng Nghwm Elan, mae'r cyllid sydd ar gael i ni’n gyfyngedig, yn enwedig nawr yng ngoleuni’r costau uwch yn sgil pandemig Covid, a'n hangen sylfaenol i gynnal gwasanaethau dŵr a dŵr gwastraff hanfodol ar gyfer ein tair miliwn o gwsmeriaid ar draws y rhan fwyaf o Gymru a Sir Henffordd.

"Rydyn ni wedi edrych ar sawl opsiwn, ond rydyn ni'n awyddus i glywed safbwyntiau rhanddeiliaid a'r gymuned leol i weld a oes unrhyw ddewisiadau eraill y dylem fod yn eu hystyried, ac i amlinellu'r gwaith sydd wedi ei wneud hyd yn hyn i ddod o hyd i ateb i'r broblem anodd yma."

Am nad oes unrhyw ateb yn debygol ar unwaith oherwydd cyflwr wyneb y graig yn y Ceunant, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi caniatâd i ni gadw'r llwybr ar gau am chwe mis pellach.  Tra bod hynny mewn grym, rydyn ni'n edrych ar lwybrau gwyriad dros dro posibl o fewn yr ystâd, ac yn trafod yr opsiynau hyn gyda Chyngor Powys. Un flaenoriaeth allweddol yw mynd i'r afael â'r pryderon a godwyd ynghylch defnyddio'r ffordd sirol fel llwybr amgen.

Dywedodd y Cyng. Heulwen Hulme, Yr Aelod o'r Cabinet dros Wasanaethau Cefn Gwlad,  “Fel llwybr poblogaidd mewn lle mor hyfryd sy'n denu llawer o drigolion ac ymwelwyr bob blwyddyn, byddem yn eich annog i ddweud eich dweud. 

“Mae'r Cyngor yn cydweithio'n agos â Dŵr Cymru i geisio dod o hyd i atebion tymor byr a thymor hir i’r broblem. Ar hyn o bryd, ein prif ffocws yw lleddfu'r pryderon sy’n bodoli ynghylch defnyddio'r ffordd fel llwybr amgen. 

"Rydyn ni'n deall ac yn gwerthfawrogi’r anghyfleustra y mae cau'r llwybr wedi ei achosi, ond am fod iechyd a diogelwch ein holl ddefnyddwyr o'r pwys mwyaf i ni, rhaid cadw'r mesur yn ei le nes y gallwn ddod o hyd i ateb parhaol a'i roi ar waith."

Oherwydd cyfyngiadau COVID-19, cynhelir y sesiynau gwybodaeth yn rhithwir dros Teams ar yr amserau canlynol 

  • Dydd Mercher 10, 13.30 – 14.30
  • Dydd Iau 11 , 14.30 – 15:30

Dylai unrhyw un sydd am fynychu un o'r sesiynau e-bostio Rangers.Elan@dwrcymru.com i gadw lle.

Fel arall, mae gwybodaeth am yr opsiynau ar gael trwy fynd i elanvalley.org.uk a dylid cyflwyno sylwadau trwy anfon neges e-bost at Rangers.Elan@dwrcymru.com erbyn diwedd Chwefror.