Dŵr Cymru'n dathlu Diwrnod Bywyd Gwyllt y Byd trwy gychwyn prosiect i adfer coetir


3 Mawrth 2021

Mae prosiect Dŵr Cymru i adfywio coetir sydd wedi tyfu'n wyllt ar safle cronfa ddŵr yng ngogledd Caerdydd yn cychwyn wrth i'r cwmni ddathlu Diwrnod Bywyd Gwyllt y Byd.

Bydd gwaith yn dechrau i roi cynllun rheoli coetir ar waith yng nghoedwig Gwern-y-Bendy a rhan o goedwig Rhyd-y-Pennau, sy'n sefyll ar safle cronfeydd dŵr Llys-faen a Llanisien, er mwyn adfer a chyfoethogi'r coetiroedd fel y gallant lewyrchu am ddegawdau i ddod.

Daw dechrau'r gwaith ar Ddiwrnod Bywyd Gwyllt y Byd sy'n dathlu ac yn codi ymwybyddiaeth am blanhigion ac anifeiliaid gwyllt y byd. Thema'r diwrnod eleni yw Coedwigoedd a Bywoliaethau: Cynnal Pobl a'r Blaned er mwyn tynnu sylw at y rôl bwysig y mae coedwigoedd yn ei chwarae wrth gynnal ecosystemau a bywoliaethau. Er nad oes coedwigoedd ym meddiant Dŵr Cymru, mae'r cwmni'n gyfrifol am reoli cannoedd o erwau o goetiroedd ledled Cymru mewn ffordd gynaliadwy.

Cymerodd Dŵr Cymru feddiant ar safle cronfeydd dŵr Llys-faen a Llanisien yn 2016, ond cyn hynny nid oedd neb wedi bod yn rheoli tyfiant yn y coetiroedd. Mae hyn yn golygu bod y lle wedi tyfu'n wyllt a bod rhywogaethau goresgynnol wedi ymsefydlu yno, ac nid oes modd cyrraedd rhannau helaeth o'r goedwig erbyn hyn. Mae rhai o'r coed ar y safle wedi marw ac wedi mynd yn beryglus yn sgil hyn hefyd.

Diolch i fenter Coetiroedd Cymunedol Llywodraeth Cymru a Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol caiff llawer o'r materion hyn eu datrys, a chaiff cynllun rheoli cynaliadwy ei roi ar waith yn y coetir.

Y cam cyntaf yn y prosiect oedd cael gwared ar y coed marw, ac mae'r cwmni nid-er-elw wedi cwblhau'r gwaith yma'n ddiweddar. Cafodd y gwaith, a gyflawnwyd gan feddygon coed proffesiynol, ei gwblhau cyn dechrau tymor nythu'r adar, a bu ecolegydd ar y safle trwy gydol y gwaith er mwyn sicrhau nad oedd unrhyw niwed i'r bywyd gwyllt.

Nawr bod y coed marw wedi cael eu dymchwel - gyda'r pren yn cael ei adfer a'i ddefnyddio i greu arwyddion a meinciau ar gyfer y safle - gall y prosiect symud ymlaen i'r cam nesaf a fydd yn cynnwys clirio'r gwastraff a'r rhywogaethau goresgynnol. Bydd hyn yn ei dro yn caniatáu ar gyfer adfywiad y fflora a'r ffawna, a chaiff coedwrychoedd cysylltiol eu plannu er mwyn creu coridorau ar gyfer bywyd gwyllt. Caiff ardaloedd mwy sensitif y coetir eu hamddiffyn trwy greu parthau cadwraeth, a bydd parth dysgu'n darparu cyfleuster addysgol ar gyfer ysgolion lleol, y gymuned ac ymwelwyr. Bydd y prosiect yn cynnwys adfer pwll pysgod hanesyddol o fewn y coetiroedd hefyd er mwyn cyfoethogi ei nodweddion bioamrywiaeth eto fyth.

Dywedodd Peter Perry, Prif Weithredwr Dŵr Cymru: "Rydyn ni'n cymryd ein cyfrifoldeb dros yr amgylchedd o ddifri, ac mae hyn yn cynnwys rheoli'r coetiroedd sydd yn ein gofal mewn ffordd gynaliadwy. Yn ogystal â helpu i gynnal ecoleg gyfoethog y safle, bydd y gwaith y byddwn ni'n ei gyflawni i adfer y coetir yng nghronfeydd dŵr Llys-faen a Llanisien yn darparu lle gwyrdd agored hygyrch a fydd yn cyfrannu at iechyd a lles cenedlaethau'r dyfodol”.

Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: "Wrth i ni geisio trechu effaith argyfwng yr hinsawdd, a dirywiad ein bioamrywiaeth, mae hi'n hanfodol ein bod ni'n helpu cymunedau i greu ac adfer cynefinoedd ar draws Cymru.

"Am hynny, rwy’n falch iawn bod Dŵr Cymru wedi gallu darparu gweledigaeth rheoli newydd ar gyfer y coetir, a'u bod wedi cychwyn gwaith adfer ar safleoedd y ddwy gronfa, gan helpu i'w diogelu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

"Dyma'r union beth y cafodd ein menter Coetiroedd Cymunedol ei dyfeisio i'w chyflawni, ac rwy'n edrych ymlaen at weld cynlluniau tebyg yn dod i'r fei yn y dyfodol."

Dywedodd Andrew White, Cyfarwyddwr Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru: "Natur yw’n treftadaeth ar ei ffurf hynaf, a dyw hi erioed wedi bod yn bwysicach gofalu amdani, cynorthwyo ei hadferiad a helpu pobl i ddeall arwyddocâd byd natur. Dyma pam fod ariannu tirweddau a byd natur ymhlith blaenoriaethau strategol allweddol Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru.

"Rydyn ni'n falch iawn o gael cefnogi Dŵr Cymru, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru trwy'r rhaglen grantiau Coetiroedd Cymunedol, i'w galluogi i gyflawni'r gwaith adnewyddu yma yng nghronfeydd Llys-faen a Llanisien er mwyn hyrwyddo bioamrywiaeth a sicrhau bod y coetiroedd yn llewyrchu fel y gall cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol eu mwynhau."

Bydd y fenter Coetiroedd Cymunedol yn gallu cefnogi'r grŵp 'Cyfeillion' newydd trwy gynnig rhaglen o hyfforddiant dan oruchwyliaeth a fydd yn cyfrannu at y gwaith o adfer y coetiroedd. Bydd y rhaglen yn datblygu capasiti a dealltwriaeth o fewn y gymuned fel y gall y gymuned ei hun barhau i ofalu am yr ardal mewn ffyrdd sy'n amgylcheddol briodol, tra bod unigolion yn cael y cyfle i ddysgu sgiliau newydd ac ailgysylltu â phobl eraill ac â byd natur mewn amgylchedd diogel.

Mae Dŵr Cymru wedi cyflwyno cais cynllunio i ddatblygu hyb i ymwelwyr a gweithgareddau dŵr cysylltiedig ar safle'r cronfeydd yn ddiweddar. Yn ystod cyfnod yr ymgynghoriad cyhoeddus, cafodd y gymuned leol gyfle i gofrestru eu diddordeb mewn ymuno â Grŵp Cyfeillion a gweithio gyda Dŵr Cymru i gyd-greu achlysuron gwirfoddoli, fel helpu gyda gweithgareddau rheoli cadwraeth er mwyn amddiffyn a gwella ecoleg unigryw'r safle. Mae llawer o'r bobl a gofrestrodd wedi mynegi diddordeb mewn rheoli cadwraeth, ac er nad oes gan lawer ohonynt unrhyw brofiad blaenorol yn y maes, byddent yn hoffi cael cyfle i ddysgu a gofalu am yr ardal leol.

Dylai unrhyw sefydliadau, grwpiau cymunedol neu elusennau sydd am gael rhagor o wybodaeth am y cyfleoedd partneriaeth a allai fod ar gael ar y safle gysylltu â Dŵr Cymru yn lisvaneandllanishen@dwrcymru.com.