Dŵr Cymru yw'r cwmni Cymreig cyntaf i ddiogelu'r Marc Trethi Teg


28 Gorffennaf 2021

Dŵr Cymru yw'r cwmni cyntaf yng Nghymru i ddiogelu'r Marc Trethi Teg.

Dŵr Cymru yw'r unig gwmni cyfleustod nid-er-elw yng Nghymru a Lloegr. Mae model gweithredu unigryw'r cwmni’n golygu nad oes unrhyw gyfranddeiliaid ganddo, felly mae'n buddsoddi unrhyw arian sydd dros ben yn ôl i mewn i wasanaethau ac er budd cwsmeriaid.

Fel cwmni â gweledigaeth i ennill ffydd ei gwsmeriaid bob un dydd, mae'r cwmni dŵr bellach yn ymuno â dros 60 o sefydliadau eraill sydd wedi ennill cydnabyddiaeth am reoli eu materion trethi mewn ffordd gyfrifol a thryloyw.

Mae Dŵr Cymru eisoes yn cefnogi gwerth dros £1 biliwn o weithgarwch economaidd trwy fuddsoddiad uniongyrchol a thrwy ei gadwyn gyflenwi. Am ei fod yn buddsoddi tua £1 miliwn y dydd yn ei wasanaethau dŵr a dŵr gwastraff, mae'r cwmni wedi buddsoddi cyfanswm o £1.9 biliwn rhwng 2015 a 2020, ac mae’n bwriadu buddsoddi £1.8 biliwn pellach rhwng 2020 a 2025.

Daw'r achrediad diweddaraf yma wrth i Ddŵr Cymru gael ei enwi ymysg y cwmnïau y mae pobl yn ymddiried y mwyaf ynddynt ar draws y sector dŵr mewn adroddiad diweddar gan y Cyngor Defnyddwyr Dŵr (CCW).

Dywedodd Peter Perry, Prif Weithredwr Dŵr Cymru:

"Mae bod yn gwmni cyfrifol a moesegol yn eithriadol o bwysig i ni yn Dŵr Cymru. Mae ein sefyllfa unigryw, wrth weithredu fel yr unig gwmni dŵr heb gyfranddeiliaid yng Nghymru a Lloegr, yn golygu bod ein cwsmeriaid yn elwa'n uniongyrchol ar ein model nid-er-elw wrth i ni fuddsoddi ein holl elw'n uniongyrchol yn ein cymunedau. Rydyn ni'n gwneud hyn trwy gyflymu buddsoddiad, cadw biliau'n fforddiadwy a chynorthwyo cwsmeriaid sy'n ei chael hi'n anodd talu eu biliau dŵr.

“Rydyn ni wrth ein boddau ein bod wedi ennill y Marc Trethi Teg fel adlewyrchiad ein hymrwymiad i reoli ein materion trethi mewn ffordd gyfrifol. Fel cwmni moesegol a chymdeithasol gyfrifol, mae tryloywder ym mhopeth a wnawn yn bwysig ac mae'n helpu i feithrin hyder ein cwsmeriaid ynom eto fyth. Rydyn i'n hynod o falch felly taw ni yw'r cwmni cyntaf yng Nghymru i fod wedi ennill yr achrediad annibynnol yma.”