Dŵr Cymru'n cael sêl bendith am fenter i helpu i wneud i ddŵr i flasu'n well byth


27 Ebrill 2021

Mae Dŵr Cymru wedi diogelu gwerth £167k o gyllid i ariannu prosiect newydd arloesol er mwyn helpu i sicrhau ei fod yn parhau i ddarparu cyflenwadau dŵr o'r safon uchaf yn uniongyrchol i dapiau cwsmeriaid.

  • Mae Dŵr Cymru wedi’i enwi fel un o enillwyr cyllid yn Sialens Arloesi mewn Dŵr gan Ofwat a Heriau Nesta i gyflawni prosiect newydd arloesol i helpu i sicrhau parhad ei gyflenwadau o'r safon uchaf ar gyfer cwsmeriaid.
  • Dŵr Cymru sy'n arwain y fenter, gan weithio gyda phartneriaid yn Bristol Water, Prifysgol Caerdydd, United Utilities a Yorkshire Water Services

Dŵr Cymru, sef yr unig gwmni dŵr nid-er-elw, sy’n arwain y fenter 12 mis o hyd, ac ar ôl ei gwblhau, gallai gael ei gyflwyno ar draws holl gwmnïau dŵr y DU. Mae darparu cyflenwadau dŵr dibynadwy ar gyfer cwsmeriaid yn waith 24 awr y dydd a 7 diwrnod yr wythnos, ac mae Dŵr Cymru'n llwyddo i wneud hyn trwy weithredu 838 o weithfeydd trin dŵr a 66 o gronfeydd dŵr. Mae'r dŵr sy'n dod o'r cronfeydd neu'r afonydd yn cael ei drin a'i lanhau yn y gweithfeydd fel bod cwsmeriaid yn cael dŵr glân â blas ffres.  

Ond os oes algâu gwyrddlas yn ein cronfeydd, gallai fod blas ac arogl od ar y dŵr ar adegau. Gall yr algâu gwyrddlas gynhyrchu cyfansoddion naturiol diniwed sy'n effeithio ar flas ac arogl y dŵr.  Er y gall Dŵr Cymru reoli hyn trwy addasu'r broses drin yn y gweithfeydd fel nad yw'n effeithio ar y dŵr sy'n cyrraedd y cwsmer, mae hynny'n golygu defnyddio cemegolion a thriniaeth ychwanegol sy'n gallu bod yn ddrud.

I geisio mynd i'r afael â'r broblem cyn iddi gyrraedd y gweithfeydd trin, mae Dŵr Cymru wedi bod yn gweithio gyda Phrifysgol Caerdydd a chwmnïau dŵr eraill i ddod o hyd i ateb arloesol a fydd yn darparu proses gyflym i ddatgelu’r algâu er mwyn sicrhau y gellir cymryd camau cynnar i atal y blas a’r gwynt annifyr rhag cyrraedd ein cwsmeriaid.

Mae'r risg y mae’r algâu gwyrddlas yn ei beri o ran blas ac arogl y dŵr yn sialens sy'n wynebu'r diwydiant dŵr ar led. Mae'n gofyn am ddata cywir ac amserol am bresenoldeb algâu gwyrddlas yn y dŵr, sy'n broses hirfaith sydd ond yn gallu cael ei chyflawni gan weithredwyr medrus mewn labordai gwasanaethau dŵr.

Bydd yr ateb newydd yn darparu technegau monitro manwl sydd bron a bod mewn amser real, a fydd yn caniatáu i samplau dŵr gael eu hasesu'n rhwydd, a chael canlyniadau amser real fwy neu lai, gan ddileu’r angen am y gwaith hirfaith a drud o chwilio am bresenoldeb algâu gwyrddlas. 

Un o fanteision cyffredinol rheoli ymyrraeth yw lleihau'r costau, ond bydd y datblygiad hwn yn lleihau'r ôl troed carbon hefyd trwy ddefnyddio llai o ddeunyddiau ac ynni. Bydd hyn yn helpu i symud y diwydiant tuag at sero o allyriannau net.

Diolch i gyllid gan reoleiddiwr y diwydiant, Ofwat, a Heriau Nesta trwy eu Sialens Arloesi mewn Dŵr, gall y fenter symud ymlaen at y cam treialu er mwyn profi'r fethodoleg yn drylwyr.

Wrth drafod y cyhoeddiad am ddyfarnu’r cyllid, dywedodd Paul Gaskin, Rheolwr Ymchwil ac Arloesi Asedau Dŵr gyda Dŵr Cymru: 
"Rydw i wrth fy modd fod fenter Dŵr Cymru i ddarparu ateb arloesol i ddatgelu presenoldeb algâu gwyrddlas mewn cronfeydd dŵr yn gyflym wedi llwyddo i ddenu cyllid gan Sialens Arloesi mewn Dŵr Ofwat. Mae'r dulliau cyfredol o ddatgelu algâu yn hirfaith ac yn gostus, ac mae angen amodau labordy i ddehongli'r canlyniadau."

“Bydd y prosiect yma'n datblygu’r dulliau, a'r peth allweddol yw y caiff y wybodaeth a ddysgir ei throsglwyddo wedyn i gwmnïau dŵr eraill er mwyn iddynt roi’r dulliau ar waith yn fewnol. Rydyn ni wrth ein boddau fod Prifysgol Caerdydd, Yorkshire Water, Bristol Water a United Utilities yn ymuno â ni yn y fenter i ddatblygu ateb a fydd yn fuddiol i'n cwsmeriaid a'r amgylchedd."

Bydd y fenter 12 mis o hyd yn lansio yn 2021, ac ar ôl ei brofi, y gobaith yw y caiff ei gyflwyno ar draws y diwydiant dŵr ar gyfer amrywiaeth eang o ddefnyddiau, gan ddarparu asesiad cynt o lawer o'r cronfeydd, ac atebion rheoli rhatach a mwy effeithlon.   

Dywedodd John Russell, Uwch Gyfarwyddwr gydag Ofwat: 
“Mae gan arloesi'r potensial i sbarduno newid chwyldroadol yn y sector dŵr a mynd i'r afael â rhai o'r sialensiau mwyaf sy'n ein hwynebu fel cymdeithas. Bydd atebion fel yr un yma'n cael gwir effaith dros y misoedd sydd o ddod, ac yn nodi dechrau ton newydd o arloesi yn y sector.

“Roeddem ni'n arbennig o falch o well cynifer o gwmnïau dŵr yn cydweithio ymysg y cynigion, a bydd y cynnig buddugol i ddatblygu Canolfan Ragoriaeth mewn Arloesi ar gyfer y sector yn allweddol wrth fwydo newid at y dyfodol. Rydyn ni'n edrych ymlaen at weld rowndiau pellach o'r gystadleuaeth yn y dyfodol, a chefnogi rhagor fyth o brosiectau trawsnewidiol i ddwyn ffrwyth dros y blynyddoedd sydd i ddod.”