Dŵr Cymru'n cynghori busnesau ar ailagor safleoedd yn ddiogel


30 Mawrth 2021

  • Mae cyfyngiadau'r pandemig yn golygu bod llawer o safleoedd busnes wedi bod ar gau am gyfnod estynedig
  • Mae angen dilyn camau allweddol wrth adfer eich systemau dŵr yfed a dŵr gwastraff

Mae Dŵr Cymru'n cynghori busnesau ar draws Cymru i gymryd rhai camau penodol wrth ailagor yn sgil y cyfnod clo er mwyn sicrhau bod eu dŵr yn ddiogel ac nad yw eu pibellau carthffosiaeth yn cael eu blocio.

Mae'r cyfyngiadau diweddar y mae'r Llywodraeth wedi eu gosod ar sefydliadau’n golygu bod llawer o adeiladau a safleoedd wedi bod ar gau am gyfnod estynedig. Efallai bod y busnesau wedi gorfod cau yn gyflym, sy'n golygu na chawsant gyfle i ddilyn eu trefniadau glanhau a chynnal-a-chadw arferol.

Os yw adeilad wedi bod yn segur, bydd y dŵr yn y system dŵr yfed wedi bod yn sefyll yn y pibellau. Mae hynny'n gallu cael effaith niweidiol ar ansawdd y dŵr yfed, ac mae'n gallu peryglu iechyd pobl. Am fod y busnes wedi bod ar gau am gyfnod estynedig, mae'n bosibl y bydd gwastraff wedi cronni yn y draeniau a'r pibellau, ac nad yw'r cyfarpar sy'n atal braster, olew a saim rhag mynd i'r pibellau wedi cael eu glanhau ers amser, a gallai hynny achosi bloc.

Gyda hynny mewn golwg, mae hi'n bwysig cymryd rhai camau penodol cyn dechrau defnyddio'r adeilad eto. Felly cyn iddynt ailagor, rydyn ni'n annog busnesau i:

  • Redeg yr holl dapiau yn yr adeilad neu ar y safle yn unigol (fflysio yw'r enw ar hyn), gan ddechrau gyda'r tap sydd agosaf at y fan lle mae'r cyflenwad dŵr yn dod i mewn i'r adeilad a symud yn systemataidd i'r rhai sydd bellaf i ffwrdd nes bod y dŵr yn rhedeg yn glir ac yn teimlo'n oer.
  • Gwagio'ch sestonau storio a'u hadlenwi â dŵr yn uniongyrchol o'r cyflenwad sy'n dod i mewn cyn fflysio'r tapiau.
  • Sicrhau bod unrhyw beiriannau (a chyfarpar sy'n gysylltiedig â'r cyflenwad dŵr fel offer chwistrellu) yn cael eu fflysio – gan ddilyn cyfarwyddiadau'r gweithgynhyrchwyr. Yn achos adeiladau mwy â phibellwaith mwy cymhleth, mae'n debygol y bydd angen i chi gyflawni gwaith fflysio mwy helaeth, a’u glanhau a'u diheintio wedyn.
  • Glanhewch eich cyfarpar - cyn dechrau coginio, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n glanhau eich system rheoli saim yn drylwyr gan ddilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr.
  • Archwiliwch eich draeniau a gylïau eich sinc - os nad yw'r draeniau a'r sinciau wedi cael eu defnyddio ers amser, mae'n bosibl y byddant wedi sychu a bod gwastraff yn sownd ynddynt. Gwnewch yn siŵr nad oes unrhyw floc yn y gylïau a fflysiwch eich draeniau â dŵr. Gallech ddefnyddio hylif bio-ddosio neu hylif chwalu braster wrth baratoi i ailagor, ond ni ddylai hyn gymryd lle system rheoli saim pan fyddwch chi'n gweithredu eto.

Gallwch gael rhagor o fanylion am y camau i'w cymryd ar ein gwefan.

Dywedodd Ian Wyatt, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cwsmeriaid Busnes Dŵr Cymru: "Rydyn ni'n gwybod bod llawer ar blatiau cwsmeriaid busnes ar hyn o bryd, a'u bod yn awyddus i agor a dechrau gweithredu eto. Ond mae yna gamau allweddol i'w cymryd cyn ailagor eich adeilad neu'ch safle er mwyn sicrhau nad oes effaith ar ansawdd eich dŵr yfed, ac nad ydych chi'n eich ffeindio'ch hun yn wynebu bloc costus yn y garthffos.”