Y galw am ddŵr i gynyddu 10% wrth i bobl fwynhau 'gwyliau gartref'


19 Gorffennaf 2021

Gyda chyfran helaeth o boblogaeth y DU yn bwriadu mwynhau 'gwyliau gartref' yr haf yma, mae Dŵr Cymru'n dwysáu ei waith i ddarparu ar gyfer galw uwch am ddŵr a ddisgwylir ar draws rhai rhannau o Gymru dros wyliau'r haf.

Gyda chyfran helaeth o boblogaeth y DU yn bwriadu mwynhau 'gwyliau gartref' yr haf yma, mae Dŵr Cymru'n dwysáu ei waith i ddarparu ar gyfer galw uwch am ddŵr a ddisgwylir ar draws rhai rhannau o Gymru dros wyliau'r haf.

Mae’r cwmni wedi cadarnhau y bu’r galw am ddŵr yn agos at dorri’r record dros y 72 awr diwethaf, wrth i Gymru fwynhau sbel estynedig o dywydd braf a phoeth. Fel arfer, mae Dŵr Cymru'n trin ac yn cyflenwi tua 800 miliwn o litrau o ddŵr glân y dydd ar gyfer ei dair miliwn o gwsmeriaid – sy’n ddigon yn fras i lenwi 320 o byllau nofio maint Olympaidd. Dros y tridiau diwethaf, bu angen i Ddŵr Cymru gyflenwi 150 miliwn yn rhagor o ddŵr y dydd.

Gyda’r disgwyliad y bydd 23 miliwn o bobl ar draws Prydain yn treulio eu gwyliau gartref eleni mae Dŵr Cymru'n rhagweld y bydd y cynnydd yma’n parhau, a disgwylir gweld cynnydd o 10% yn y galw rhwng nawr a diwedd Medi, a allai godi i gymaint ag 20% yn dibynnu ar y tywydd ac ar niferoedd y twristiaid.

O ganlyniad, mae'r cwmni’n dwysáu cynhyrchiant ei weithfeydd trin dŵr fel eu bod nhw'n cynhyrchu digon o ddŵr glân i gadw i ddiwallu’r galw. Mae gwaith rhanbarthol ar y gweill hefyd i baratoi ardaloedd sy’n boblogaidd gyda thwristiaid, fel Sir Benfro, Gwynedd a Cheredigion, ar gyfer y mewnlifiad o ymwelwyr.

Mae Dŵr Cymru eisoes yn cymryd camau i helpu i arbed dŵr. Bob mis, mae timau Dŵr Cymru'n trwsio tua 2,000 o ollyngiadau ac yn gweithio rownd y cloc i gadw'r dŵr yn llifo trwy ei rwydwaith 27,400km, a hynny er mwyn sicrhau nad oes unrhyw ddŵr yn cael ei wastraffu'n ddiangen. Ynghyd â'r dulliau mwy traddodiadol o ganfod gollyngiadau, fel arolygu piblinellau a monitro pwysedd, mae'r cwmni'n defnyddio technegau arloesol i logio sŵn gollyngiadau a phroffilio'r tymheredd er mwyn monitro'r rhwydwaith a chaniatáu ar gyfer ymateb yn gynt.

Mae'r cwmni'n cynnig awgrymiadau a chynghorion i gwsmeriaid i'w cynorthwyo i chwarae eu rhan wrth helpu i osgoi gwastraffu dŵr. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Peidio â gadael y tap yn rhedeg wrth olchi dwylo neu frwsio dannedd.
  • Cael cawod fer yn lle bath.
  • Aros nes bod y peiriannau golchi dillad a llestri'n llawn cyn eu cynnau.
  • Peidio â llenwi'r pwll padlo'r holl ffordd – a defnyddio'r dŵr o'r pwll i ddyfrio'r planhigion yn yr ardd wedyn.
  • Peidio â defnyddio taenellwr i gadw'r lawnt yn wyrdd – daw'r lliw nôl yn ddigon buan pan ddaw'r glaw.
  • Defnyddio ein cyfrifiannell 'Ffitrwydd Dŵr' newydd i'ch helpu i ganfod ffyrdd o arbed dŵr ac arian - mae cynnyrch ar gael am ddim ar ôl cofrestru.

Mae'r cwmni'n gofyn i fusnesau wneud ymdrech ychwanegol i beidio â gwastraffu dŵr, ac yn arbennig busnesau fel parciau carafanau, cyrsiau golff a ffermydd. Gall lleihau faint o ddŵr y mae busnes yn ei ddefnyddio ychydig bach wneud gwahaniaeth mawr wrth helpu Dŵr Cymru i gadw'r dŵr yn llifo dros yr haf, ynghyd â'r fantais ychwanegol o leihau biliau dŵr y busnes a'i gynorthwyo i amddiffyn yr amgylchedd.

Dywedodd Ian Christie, Rheolwr Gyfarwyddwr Dŵr, Cynllunio Asedau a Gwasanaethau Cyflawni Cyfalaf:

"Fel cwmni, rydyn ni'n disgwyl gweld ymchwydd yn y galw dros fisoedd yr haf mewn blwyddyn arferol, ac rydyn ni'n rhagweithiol yn ein dulliau o addasu ein gweithrediadau yn ystod y cyfnod hwn. Bydd yr haf yma'n wahanol oherwydd y nifer o bobl sy'n bwriadu treulio eu gwyliau yng Nghymru, ac mae'n naturiol y bydd diwallu'r galw'n dod â sialensiau ychwanegol i'r cwmni.”

“Yn naturiol, rydyn ni'n croesawu pobl i dreulio'u gwyliau yng Nghymru ac rydyn ni am iddyn nhw gael amser da yma, ond mae angen iddyn nhw ymestyn y dŵr ymhellach nag arfer eleni. Dyna pam ein bod ni eisoes yn cymryd camau breision i sicrhau ein bod ni fel cwmni mor barod â phosibl. Ond mae angen i ni ofyn i'n cwsmeriaid a'r rhai sy'n ymweld â Chymru i chwarae eu rhan hefyd trwy ystyried sut maen nhw'n defnyddio dŵr, ac yn bwysicach na hynny, trwy beidio â'i wastraffu. Rydyn ni'n gweithio gyda pharciau carafanau i ddarparu cymaint o wybodaeth effeithlonrwydd dŵr â phosibl ar eu cyfer. Trwy gydweithio fel hyn, mae gennym ni'r cyfle gorau o sicrhau bod yna ddigon o ddŵr i bawb trwy gydol cyfnod yr haf”.

“Rhaid i ni gofio hefyd y gall cwsmeriaid ac ymwelwyr helpu trwy roi gwybod i ni os ydyn nhw'n gweld dŵr yn gollwng wrth fynd o gwmpas eu pethau yng Nghymru. Gorau po gyntaf y gallwn glywed am y broblem er mwyn i ni anfon tîm allan i'w thrwsio".

I gael rhagor o wybodaeth am ffyrdd o arbed dŵr a manylion sut i gael gafael ar ddyfeisiau arbed dŵr, ewch i dwrcymru.com.