Arolwg newydd yn datgelu nad yw pobl Cymru yn deall digon am effeithiau plaleiddiaid


1 Mehefin 2021

Mae gwaith ymchwil newydd gan Dŵr Cymru wedi darganfod nad yw pobl Cymru yn deall digon am effaith bosib chwynladdwyr ar ein hamgylchedd, er ein bod ni’n genedl sy’n hapus i roi cynnig ar ddulliau ecogyfeillgar o daclo chwyn.

Mewn arolwg o 2,000 o bobl ledled Cymru, datgelodd yr ymchwil gan y cwmni dŵr nid er elw bod hanner yr ymatebwyr yn hapus i ddefnyddio dulliau amgen yn lle plaleiddiaid na fyddai’n niweidio’r amgylchedd. Fodd bynnag, cyfaddefodd dros draean o’r ymatebwyr (35%) mai dim ond ychydig bach maen nhw’n ei ddeall am yr effaith y gall plaleiddiaid fel chwynladdwyr a gwenwyn malwod ei chael pan fyddant yn cyrraedd ein cyrsiau dŵr.

Dywedodd bron i draean o bobl Cymru (29%) eu bod wedi prynu a defnyddio plaleiddiad yn eu cartrefi yn y gorffennol heb ddeall yn iawn sut i storio a gwaredu’r cynnyrch yn gywir. Yn fwy na hynny, roedd 30% o bobl yn meddwl y dylid chwistrellu chwynladdwr yn hael dros chwyn er mwyn ei ladd yn effeithiol, gan anwybyddu’r cyngor ar sut i ddefnyddio’r cynnyrch oedd ar y label.

Cafodd yr ymchwil ei ryddhau wrth i Dŵr Cymru lansio gwefan newydd, PestSmart.cymru, sy’n llawn gwybodaeth ac adnoddau defnyddiol ar gyfer defnyddio, storio a gwaredu plaleiddiaid yn ddiogel. Nod PestSmart yw rhannu gwybodaeth am daith plaleiddiaid o’r chwyn i’r cyrsiau dŵr pan na fyddan nhw’n cael eu defnyddio’n gywir. Mae Dŵr Cymru yn gweithio gyda garddwr arbenigol BBC Radio 2, Terry Walton, i hyrwyddo ffyrdd mwy doeth o ofalu am erddi a mannau awyr agored.

Meddai Terry Walton, llysgennad PestSmart: “Gyda blynyddoedd o brofiad garddio, dw i wedi dysgu nad oes angen i ni ddibynnu ar gynnyrch lladd chwyn i daclo chwyn yn effeithiol yn ein gerddi, na defnyddio plaleiddiaid i gadw pryfaid rhag bwyta ein planhigion.

“Er bod ffigurau arolwg Dŵr Cymru yn dangos bod rhywfaint o ffordd i fynd gyda ni er mwyn deall yn iawn pa effaith mae plaleiddiaid yn ei chael ar ein hamgylchedd, mae pobl Cymru yn awyddus i ddefnyddio dulliau amgen i blaleiddiaid ac ati. Mae hyn yn newyddion da, oherwydd mae gwefan PestSmart yn llawn awgrymiadau amgen ar sut i daclo chwyn.

“Pwrpas PestSmart yw rhoi’r adnoddau i bobl allu deall effeithiau plaleiddiaid yn ogystal â rhannu arferion gorau wrth eu defnyddio, os yw pobl wedi rhoi cynnig ar ddefnyddio dulliau amgen yn gyntaf. Drwy leihau ein dibyniaeth ar blaleiddiaid, gallwn warchod ein dŵr gwerthfawr, ein bywyd gwyllt a’n pobl am genedlaethau i ddod.”

Pan ddaw hi at ein hanifeiliaid anwes, dywedodd chwarter o’r ymatebwyr nad oedden nhw’n deall pa effaith y gallai plaleiddiaid ei chael ar anifeiliaid, er bod y cynhwysion cemegol yn gallu bod yn niweidiol i anifeiliaid anwes.

Canfu arolwg Dŵr Cymru bod 32% o bobl yn cyfaddef nad oedden nhw’n hyderus o gwbl pan ddaw hi at waredu plaleiddiaid dros ben a’u poteli yn gywir. Roedd 6% yn rhagor o ymatebwyr yn credu mai arllwys y cynnyrch lawr y sinc gyda dŵr berwedig oedd y ffordd gywir o’i waredu, sy’n anghywir.

Meddai Phillippa Pearson, Pennaeth Gwyddorau Gwasanaethau Dŵr, Dŵr Cymru: “Rydyn ni’n gwybod bod plaleiddiaid yn gallu chwarae rhan fawr mewn bywydau bob dydd. Fodd bynnag, pan fyddan nhw’n cael eu defnyddio, eu storio neu eu gwaredu’n anghywir, gallan nhw fod yn niweidiol i bobl, dŵr a bywyd gwyllt. Mae ein rhaglen monitro dŵr arferol wedi canfod olion cynyddol o blaleiddiaid mewn rhai ardaloedd ledled Cymru. Er bod y lefelau hynny’n rhy isel i beri risg i ddŵr tap, maen nhw’n ddigon uchel i olygu bod angen rhagor o driniaeth ar y dŵr er mwyn cyrraedd safonau dŵr yfed llym ac i sicrhau ein bod yn gallu parhau i ddarparu dŵr iachus i’n cwsmeriaid.

“Drwy ddiogelu a gwella ansawdd y dŵr crai cyn iddo gyrraedd ein gweithfeydd trin dŵr, gallwn osgoi’r angen i ddefnyddio cemegion ac ynni ychwanegol i wneud eich dŵr yfed yn berffaith. Bydd gweithio gyda’n gilydd i leihau ein dibyniaeth ar blaleiddiaid yn ein helpu ni i gadw biliau’n isel ac yn gwarchod ac yn diogelu’r amgylchedd am genedlaethau i ddod.”

Mae prosiect PestSmart wedi cael arian drwy Raglen Datblygu Gwledig 2014-2020 Llywodraeth Cymru, sy'n cael ei hariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig, a Llywodraeth Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.PestSmart.cymru