Cronfa Gymunedol yn cynorthwyo Merched Clwb Pêl-droed y Rhyl


2 Mawrth 2021

Mae timau pêl-droed newydd i ferched yn y Rhyl wedi sgorio, gan ennill cyfraniad gan Dŵr Cymru.

Diolch i rodd o Gronfa Gymunedol y cwmni dŵr nid-er-elw, llwyddodd timau newydd merched o dan 8 ac o dan 10 CPD Y Rhyl 1879 i brynu offer ar gyfer sesiynau hyfforddi.  Cafodd y timau £500 o’r gronfa i brynu goliau, conau ac offer arall i helpu’r merched i wella’u ffitrwydd a’u sgiliau pêl-droed. Yn ogystal â gwella’u sgiliau, mae’r clwb am sicrhau bod y sesiynau hyfforddi yn hwyl i’r merched ac yn lles iddynt o safbwynt cymdeithasol ac iechyd meddwl, agweddau sy’n gysylltiedig â bod yn rhan o dîm a gwneud ymarfer corff awyr-agored.

Dywedodd Tom Jamieson, Cadeirydd CPD Y Rhyl 1879, “Cafodd yr arian groeso cynnes gan dimau newydd y merched yn CPD Y Rhyl 1879. Rydym wedi’i ddefnyddio i brynu set newydd o goliau, polion slalom a chonau fel y gall ein hyfforddwyr gynnal sesiynau hyfforddi difyr ac amrywiol i ysbrydoli timau newydd y merched o dan 8 ac o dan 10. Mae’n wych o beth bod Cronfa Gymunedol Dŵr Cymru wedi cefnogi ein clwb ni yn ystod y cyfnod anodd hwn.” 

Dywedodd Claire Roberts, Pennaeth Ymgysylltu Cymunedol gyda Dŵr Cymru, “A ninnau’n gwmni nid-er-elw, ein cwsmeriaid sydd wrth galon ein holl waith. Ein nod trwy ein Cronfa Gymunedol yw rhoi rhywbeth yn ôl i’r cymunedau rydym yn buddsoddi ynddyn nhw. Mae’n wych ein bod yn gallu cefnogi timau newydd y merched fel y gallan nhw ailddechrau eu sesiynau hyfforddi a mwynhau defnyddio’r offer newydd pan gaiff y cyfyngiadau eu codi.”  

Mae Cronfa Gymunedol Dŵr Cymru’n rhoi rhoddion o hyd at £1,000 i gefnogi grwpiau lleol er budd eu cymunedau. Yn ystod y chwe mis diwethaf, mae’r gronfa wedi cefnogi 56 o grwpiau trwy gyfrannu dros £24,000 i gymunedau lleol. Os hoffech wybod mwy am y gronfa neu wneud cais am gyfraniad, ewch i yma.