Disgyblion Ysgol Gynradd Rhydypennau


23 Ebrill 2021

Cyn dychwelyd i'r dosbarth, rhoddwyd her i ddisgyblion Ysgol Gynradd Rhydypennau fod yn greadigol a llunio logo ar gyfer Cyfeillion Cronfeydd Dŵr Caerdydd, sef grŵp o wirfoddolwyr sy'n cael eu ffurfio i weithio gyda Dŵr Cymru i gyd-greu digwyddiadau a fydd yn helpu i amddiffyn a chyfoethogi ecoleg unigryw'r cronfeydd dŵr yng ngogledd Caerdydd.

Mae'r gwaith o ffurfio’r grŵp yn cael ei arwain gan Bernard Adshead, Trysorydd Grŵp Gweithredu'r Gronfa ac aelod o Fwrdd y Prosiect ENRaW, sef cynllun sy'n helpu i wella ansawdd yr amgylchedd lleol a bioamrywiaeth wrth ehangu mynediad er lles y boblogaeth ar led. .

Ffurfiwyd Grŵp Gweithredu'r Gronfa (RAG) yn 2001 mewn ymdrech i achub y cronfeydd rhag datblygiad tai arfaethedig. Bydd llawer o drigolion Caerdydd yn gyfarwydd â logo eiconaidd RAG a oedd i'w weld mewn cartrefi a gerddi ar draws gogledd Caerdydd. Ugain mlynedd yn ddiweddarach, y gobaith yw y daw logo Cyfeillion Cronfeydd Dŵr Caerdydd yr un mor gyfarwydd, gan symboleiddio'r cysylltiad â'r gymuned sy'n helpu i amddiffyn seilwaith gwyrdd a glas Caerdydd fel y gall cenedlaethau'r dyfodol ei fwynhau.

Dywedodd Bernard: "Roeddwn i'n teimlo ei bod hi'n bwysig fod gan Gyfeillion Cronfeydd Dŵr Caerdydd logo sy'n dangos pam fod y safle mor arbennig, felly gosodwyd y dasg i'r disgyblion feddwl am ddyluniad i adlewyrchu beth y mae'r cronfeydd yn ei olygu i'r gymuned leol. Roedd y cynigion yn wych ac yn dangos faint roedd y bobl ifanc yma'n ei wybod am y cronfeydd, er eu bod nhw'n rhy ifanc i fod wedi ymweld â'r safle erioed."

Cyflwynodd dros 30 o ddisgyblion rhwng 7 a 10 oed eu dyluniadau yn y gobaith y câi eu syniadau eu dewis i gynrychioli'r grŵp.

Am fod safon y cynigion mor uchel bu angen llunio rhestr fer o dri, a chyhoeddwyd y dyluniad buddugol mewn cyflwyniad rhithwir ddydd Llun diwethaf, a'r enillydd oedd Arushi De Silva, sy'n 8 oed.

Disgyblion Ysgol Gynradd Rhydypennau

Er na ddaethon nhw allan ar y brig yn y pendraw, rhoddwyd clod uchel i'r dyluniadau gan Hamza Elsabeeny sy’n 8 oed, ac Osian Davies sydd hefyd yn 8 oed, yn y cyflwyniad, a chafodd y tri wobrau gan RAG..

Mae Tom Tribe o Design Tribe, cwmni dylunio a marchnata yng Nghaerdydd, a wirfoddolodd ei amser a'i arbenigedd fel rhywun sydd wedi cofrestru diddordeb yng Nghrŵp y Cyfeillion, wedi dylunio’r logo yn broffesiynol. Cafodd Tom ei syfrdanu gan greadigrwydd disgyblion Ysgol Gynradd Rhydypennau, cymaint felly nes y penderfynodd Design Tribe noddi gwobr i gydnabod ymdrechion pob plentyn a gymerodd rhan yn y gystadleuaeth.

Disgyblion Ysgol Gynradd Rhydypennau

Dywedodd Tom: "Roedd hi'n dipyn o dasg dewis yr enillydd, ond daeth y dyluniad buddugol i’r brig am ei fod yn cyfleu natur y ddwy gronfa ac mae llawer o feddwl wedi mynd i ymgorffori nodweddion arbennig y lle yn un logo. Da iawn i Arushi ac i bawb a gymerodd ran – roedd eich dyluniadau'n fendigedig.”

Dywedodd pennaeth Ysgol Gynradd Rhydypennau, Mrs Nicola Hammond: "Ugain mlynedd yn ôl, cynhaliodd RAG eu cyfarfod cyntaf yn yr ysgol. Rydw i wrth fy modd fod yr ysgol bellach wedi gallu helpu i ffurfio grŵp Cyfeillion Cronfeydd Dŵr Caerdydd. Gobeithio na fydd hi'n hir cyn y gall y disgyblion yma fwynhau'r safle prydferth yma sydd ar stepen ein drws, ac y byddant yn parhau i’w fwynhau am flynyddoedd i ddod."

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Dŵr Cymru wedi bod yn gofyn i'r gymuned gofrestru eu diddordeb mewn ymuno â grŵp Cyfeillion. Mae dros 140 o bobl wedi dangos diddordeb, a ffurfiwyd is-grwpiau o wirfoddolwyr er mwyn ffurfioli'r grŵp â chyfansoddiad annibynnol. Crëwyd gwefan newydd, sydd wedi mynd yn fyw yr wythnos hon, er mwyn galluogi i'r rhai sydd â diddordeb gofrestru fel aelodau er mwyn cymryd y camau terfynol yna er mwyn sefydlu’r grŵp yn ffurfiol.

Mae'r wefan, a ddyluniwyd gan Martin Wilmore, gwirfoddolwr arall a gofrestrodd ddiddordeb yn y grŵp, yn arddangos y logo newydd â balchder, a chyfeiriad y wefan yw: www.friendsofcardiffreservoirs.org.

Dywedodd Annie Smith, Rheolwr Partneriaeth ENRaW Dŵr Cymru: "Mae hi wedi bod yn bleser bod yn rhan o'r siwrnai a fydd yn ailgysylltu cymuned Caerdydd â'r cronfeydd, a diolch i bawb sydd wedi bod wrthi am eu cyfraniadau allweddol wrth helpu i ffurfio'r grŵp. Gyda chyfyngiadau'r cyfnod clo’n dechrau llacio, rydyn ni'n edrych ymlaen at ffurfio perthynas waith tymor hir â'r gymuned ac â Chyfeillion Cronfeydd Dŵr Caerdydd.”

Caiff rhaglen i hwyluso’r gweithgareddau gwirfoddoli a chymunedol ei chyflwyno cyn agor y safle i'r cyhoedd. Bydd y rhaglen yn datblygu gallu a dealltwriaeth y gymuned i barhau i ofalu am safle'r cronfeydd mewn ffyrdd sy'n amgylcheddol briodol, a chaiff unigolion gyfle i ddysgu sgiliau newydd ac ailgysylltu â phobl eraill ac â byd natur mewn amgylchedd diogel.

Cyfeillion Cronfeydd Dŵr Caerdydd fydd grŵp Cyfeillion cyntaf Dŵr Cymru, ond y gobaith yw y daw'r grŵp yma'n fodel sy'n gallu rhannu arferion gorau a hwyluso cysylltiadau cymunedol tebyg ar draws safleoedd Atyniadau Ymwelwyr eraill Dŵr Cymru.

Dylai unrhyw sefydliadau, grwpiau cymunedol neu elusennau sydd am gael rhagor o wybodaeth am y cyfleoedd partneriaeth a allai fod ar gael ar y safle gysylltu â Dŵr Cymru yn lisvaneandllanishen@dwrcymru.com.