Dŵr Cymru’n annog cwsmeriaid i baratoi eu cartrefi am y gaeaf


30 Tachwedd 2021

Mae Dŵr Cymru'n annog ei gwsmeriaid i weithredu nawr i baratoi eu cartrefi am y gaeaf er mwyn amddiffyn rhag pibellau'n rhewi ac yn byrstio wrth i'r tymheredd barhau i ddisgyn.

Yn ôl gwaith ymchwil gan y cwmni polau piniwn YouGov, mae bron i chwarter pobl Cymru wedi cael profiad o bibellau'n rhewi yn eu cartrefi cyn nawr, ac mae 16% wedi dioddef pibell yn byrstio – sy'n gallu achosi gwerth miloedd o bunnoedd o ddifrod.

Ffeindiwyd hefyd nad yw bron i 40% o bobl yn gwybod sut i lagio pibellau mewn mannau agored – y rhai sy’n fwyaf tebygol o rewi – ac nad yw cyfanswm o 63% erioed wedi rhoi cynnig ar wneud hyn

Mewn tywydd oer iawn, mae'r dŵr yn eich pibellau a'ch tapiau'n gallu rhewi. Mae dŵr yn chwyddo wrth rewi ac mae hyn yn gallu cracio'r bibell fetel gryfaf hyd yn oed. Efallai na sylwch chi ar unwaith, ac ni fyddwch chi'n gwybod bod problem nes bod yr iâ yn y bibell yn dadmer, a dŵr yn dechrau gollwng ohoni.

Mae pibellau dŵr a thapiau sydd yn yr awyr agored neu mewn lle oer, fel llofft neu garej, mewn perygl uwch o rewi a byrstio, a gallant adael cartrefi a busnesau heb ddŵr, heb wres, neu dan ddŵr – ynghyd â'r holl gostau sy'n dod yn sgil hynny.

Er mwyn atal pibellau rhag rhewi, mae Dŵr Cymru'n annog cwsmeriaid i weithredu nawr a lapio eu pibellau gan ddefnyddio pecyn lagio. Mae Dŵr Cymru'n gallu cynnig nifer gyfyngedig o becynnau lagio am ddim i gwsmeriaid er mwyn iddynt amddiffyn pibellau a thapiau sydd mewn mannau oer, trwy fynd i’r wefan yma.

Dywedodd Lucy o Gaerdydd, sy'n gwsmer i Ddŵr Cymru ac yn fam i ddau blentyn: "Yn ystod y tywydd oer iawn mis Chwefror diwethaf, torrodd ein bwyler gan ein gadael ni heb wres na dŵr poeth. Ar y pryd roeddwn i'n feichiog iawn ac yn gofalu am blentyn bach. Fe alwon ni'r plymwr, a dywedodd e nad oedd dim y gallai ei wneud am fod ein pibellau wedi rhewi oherwydd y tywydd oer, ac y byddai angen i ni aros i'r iâ ddadmer cyn y byddai'r bwyler yn gallu gweithio eto. Byddwn i'n annog pawb i baratoi eu cartrefi a lapio eu pibellau â phecyn lagio. Roedden ni'n lwcus bod ein bwyler yn gweithio'n dda ar ôl cael gwared ar yr ia, ond byddaf i'n sicr yn fwy gofalus y gaeaf yma."

Yn ôl y ffigurau diweddaraf gan Go Compare, y wefan cymharu prisiau yswiriant, o'r holl bobl a ymgeisiodd am ddyfynbris am yswiriant cartref trwy GoCompare gan ddatgan eu bod wedi hawlio ar bolisi rhwng Ionawr ac Awst 2021, roedd 25% o'r hawliadau hynny’n ymwneud â dŵr yn gollwng.

Dywedodd Ian Christie, Rheolwr Gyfarwyddwr Gwasanaethau Dŵr Dŵr Cymru: "Fel cwmni, rydyn ni wedi bod yn gwneud popeth y gallwn ni i baratoi ar gyfer y misoedd oerach, gan gynnwys briffio staff ar baratoi ar gyfer tywydd oer, paratoi ein fflyd o gerbydau 4x4 am dywydd eithafol, llwytho ein tanceri rhag ofn bod argyfwng, a rhoi gwybod i’n cwsmeriaid sut y gallan nhw helpu i gadw'r dŵr i lifo hefyd.

"Mae hi'n bwysig bod ein cwsmeriaid yn paratoi ar gyfer misoedd y gaeaf fel y gallant osgoi byrst a gollyngiadau costus, ac fel y gallwn reoli’r pwysau ar draws y rhwydwaith.

Dyna pam ein bod ni'n gofyn i bobl sicrhau bod eu cartrefi a'u busnesau wedi eu lapio'n barod am y gaeaf trwy ddefnyddio pecyn lagio ar unrhyw bibellau neu dapiau sy’n agored i’r oerfel. Gallai hyn atal anghyfleustra a chostau mawr – ar yr adeg waethaf o'r flwyddyn i ddelio â phethau fel hyn. Rydyn ni'n cynnig nifer o becynnau lagio i gwsmeriaid hefyd i'w cynorthwyo i baratoi trwy lapio eu pibellau cyn i'r tywydd oeri'n ormodol.

"Bydd ein timau'n gweithio 24/7 i gadw pethau'n llifo, ond mae angen cymorth ein cwsmeriaid arnom i wneud hyn hefyd trwy sicrhau bod eu cartrefi a'u busnesau'n barod am y gaeaf."

Pan fo problem yn codi ar bibell mewn cartref, cyfrifoldeb perchennog y cartref neu’r landlord yw hynny, felly mae hi’n bwysig bod pobl yn paratoi eu cartrefi ar gyfer misoedd oer y gaeaf. Mae'r un cyngor yn berthnasol i unrhyw fath o eiddo a allai fod yn wag am gyfnod dros y gaeaf fel cartrefi gwyliau, carafanau, ysgolion neu ffatrïoedd hefyd.