Dŵr Cymru Welsh Water Osprey Statement


1 Mai 2021

Torcalonnus yw cadarnhau, am 21.42 nos Wener, 30 Ebrill, torrodd rhywun nyth y gweilch yn Llyn Brenig i lawr gan ddefnyddio llif gadwyn.

LJ2(18) ac LM6(18) oedd yn defnyddio'r nyth, ac roedden nhw wedi dodwy wy yn ddiweddar.

Sioc a gwarth yw'r weithred erchyll yma o fandaliaeth ac rydyn ni'n gweithio gyda'r heddlu yn eu hymchwiliadau.

Os oes gennych wybodaeth am y drosedd ofnadwy yma, cysylltwch â Heddlu Gogledd Cymru ar 101, neu Crimestoppers ar 0800 555 111 gan ddyfynnu rhif y drosedd, sef 2059734.