Dŵr Cymru'n mynd amdani gyda nofio dŵr agored


1 Mawrth 2021

Mae Dŵr Cymru'n bwriadu agor rhai o'i gronfeydd dŵr ar gyfer nofio dŵr agored dan reolaeth ofalus yn 2021.

Wrth gydnabod y potensial y gall nifer fach o safleoedd y cwmni sy’n cael eu staffio ei gynnig i nofwyr dŵr agored, mae'r cwmni nid-er-elw yn credu y gallai cynnig mynediad dan reolaeth ddiogel i'r dŵr i gymryd rhan mewn gweithgareddau pwrpasol mewn cronfeydd penodedig helpu i gynnal iechyd a lles eu cwsmeriaid.

Mae Nofio Dŵr Agored yn prysur ddatblygu i fod yn gweithgaredd poblogaidd dros ben ac mae'r gweithgaredd wedi mwynhau adfywiad mawr yn ddiweddar. Mae hi'n weithgaredd sy'n bywiogi rhywun, a phrofwyd bod yna fanteision aruthrol i iechyd – gan helpu pobl i gysylltu â byd natur, lleddfu poen corfforol, a chadw dementia draw.

Mewn ymateb i'r galw gan gwsmeriaid, lluniwyd polisi Mynediad Awdurdodedig i'r Dŵr er mwyn lliniaru'r risgiau sy'n gysylltiedig â mynd i'r dŵr, trwy sicrhau bod y gweithgareddau'n cael eu rheoli'n dynn a'u cynnal mewn ffordd briodol.   

Cynhaliodd Dŵr Cymru gynllun peilot nofio dŵr agored dan reolaeth yn Llyn Llandegfedd yn Sir Fynwy y llynedd, gyda dros 760 o nofwyr dŵr agored (oedolion a phlant) a 4 o glybiau'n cymryd rhan mewn 34 o sesiynau nofio pwrpasol dros yr haf. 

Dangosodd y cynllun peilot llwyddiannus fod yna alw anferth gan gwsmeriaid am nofio dŵr agored a bod modd rheoli diogelwch yn llwyddiannus trwy broses achredu SH₂OUT, sy'n cynnwys darparu hyfforddiant achub bywyd nofio dŵr agored pwrpasol ar gyfer staff. 

Yn sgil y cynllun peilot, mae yna gynlluniau bellach i ymestyn y rhaglen nofio dŵr agored yn Llandegfedd ac ennill achrediad SH₂OUT ar gyfer dau safle pellach â staff yn 2021, gan weithio mewn partneriaeth â Nofio Cymru a Triathlon Cymru. Pan fydd y safleoedd wedi cael eu hachredu fel canolfannau diogel ar gyfer nofio dŵr agored, bydd Dŵr Cymru'n gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu rhaglen o weithgareddau pwrpasol dan reolaeth ofalus, gyda sesiynau'n cael eu teilwra ar gyfer clybiau, grwpiau ac unigolion sydd am roi cynnig ar y gweithgaredd hynod boblogaidd yma. 

Dywedodd Peter Perry, Prif Weithredwr Dŵr Cymru, “Rydyn ni'n datblygu ein hatyniadau ymwelwyr fel hybiau ar gyfer iechyd a lles, a thrwy ganiatáu mynediad i'r dŵr mewn cronfeydd dynodedig ar gyfer gweithgareddau dŵr agored fel nofio dŵr agored, rydyn ni’n credu y gallwn helpu i gynnal iechyd a lles ein cwsmeriaid”. Ychwanegodd, “Nid yw’r awyr agored erioed wedi bod yn bwysicach, ac mae gennym lwyth ohono yn Dŵr Cymru”. 

Mae Dŵr Cymru'n atgoffa pobl na chaniateir unrhyw nofio diawdurdod yn ei gronfeydd, ac mae nofio diawdurdod yn beryglus dros ben. Mae'r sesiynau Nofio Dŵr Agored yn cael eu rheoleiddio'n dynn o dan oruchwyliaeth ofalus ein tîm sydd wedi cael hyfforddiant manwl. Cynhelir y sesiynau pwrpasol mewn ardaloedd dynodedig penodol o'r gronfa, yn ddiogel wrth y peiriannau cudd. Rhaid bwcio cyn mynychu'r sesiynau.

Mae Dŵr Cymru'n berchen ar ac yn cynnal mwy na 90 o argaeau a chronfeydd ar draws Cymru a Sir Henffordd, ac mae'r rhain yn chwarae rhan hanfodol wrth gyflenwi dŵr o'r safon uchaf ar gyfer ein tair miliwn o gwsmeriaid.

*Yn amodol ar gyfyngiadau COVID-19